Gwybodaeth y We

 
Menter Ddiwylliannol Clwyd

Mae gan ardal Cadwyn Clwyd gyfoeth o fentrau diwylliannol nad ydynt wedi eu llwyr datblygu. Mae'r crynodiad o fentrau diwylliannol sy'n bodoli ynghyd â'r potensial i fusnesau lleol i gymryd rhan yn un arwyddocaol. Mae'r mentrau diwylliannol sydd mewn bodolaeth yn barod yn datblygu'n barhaol, mentrau a oedd yn rai prawf eu natur, sydd angen eu cefnogi a'u maethu. Bydd yr LAG yn ceisio mynd ati i roi'r gefnogaeth yma a datblygu menter brawf i rwydweithio a hybu y mentrau yma gan sicrhau fod Cadwyn Clwyd yn cadw ei enw da fel canolfan ragoriaeth mewn gweithgareddau diwylliannol. Bydd y prosiect yma yn beilot o saith digwyddiad / gw^yl a fydd yn denu ymwelwyr drwy'r flwyddyn gan sicrhau fwy o fudd economaidd i bentrefi a threfi bach yn ardal Cadwyn Clwyd. Mae elfennau'r prosiect yn cynnwys

Project elements include

(a) 'Mewn goleuni newydd' yn cwmpasu y defnydd o oleuni ym mis Hydref, bydd yn ceisio datblygu cyfres o nosweithiau ym mis Hydref / Tachwedd a fydd yn trawsnewid nifer o nodweddion amlwg yn ardal Cadwyn Clwyd, megis Yr Hen Garchar Rhuthun, Abaty Glyn y Groes, drwy dechnolegau gweledol a golau;

(b) 'Tra rydych yma' cyfres o ddigwyddiadau peilot a fydd yn targedu at wella profiad yr ymwelydd drwy ddiwylliant lleol yr ardal.


Annog Twristiaeth Werdd

Ffocws y prosiect yma fydd datblygiad Rhwydweithiau Twristiaeth Werdd sydd wedi'u lleoli o amgylch Tafarn y Celyn (Loggerheads) a Nant Alyn (sydd ar hyn o bryd yn cael ei asesu i ganfod ei addasrwydd i gael statws SAC), Arfordir Afon Dyfrdwy, gydag amrywiaeth o atyniadau trwy ardal Cadwyn Clwyd yn canolbwyntio ar yr uchod.

Bydd yr atyniadau yma yn rhai ddeongliadol, yn addysgiadol ag yn rai a fydd yn hyrwyddo, hefyd byddant yn ceisio annog ehangiad o'r rhwydwaith drwy gynnwys atyniadau sydd yn fwy gwyrdd, llwybrau, llwybrau natur, coetiroedd a llety.

Yn ychwanegol i'r cynhyrchion lleol sy'n pwysleisio nodweddion 'gwyrdd' ac amgylcheddol ardal Cadwyn Clwyd a fydd yn cael ei roi ar brawf drwy fenter hyrwyddo, felly yn manteisio ar adnoddau naturiol yr ardal mewn dull sensitif a chynaliadwy.

Bydd y prosiect Arfordirol yn ceisio datblygu llwybr cerdded a beicio ar hyd Arfordir Dyfrdwy SSSI/SAC gan ddehongli eu hadnoddau naturiol ac amgylcheddol o safon uchel.

Bydd digwyddiadau newydd hefyd yn cael eu hannog i wneud defnydd o'r rhwydwaith ehangach megis 'Cerdded dros y Penwythnos' a fydd yn cynnwys llwybrau sydd mewn bodolaeth yn barod ac yn hybu y defnydd o lety.


Olion Traed Diwydiannol a Threftadaeth Byw

Bwriad y prosiect yma yw datblygu prosiect cynnyrch twristiaeth newydd ac arloesol sydd wedi ei seilio ar waith ymchwil ar farchnadoedd potensial, a fydd yn dehongli ac yn gwella ar orffennol diwydiannol Dyffryn Clwyd AONB a'r ardal amgylchynol Cadwyn Clwyd LAG.

Mae gan yr ardal gyfoeth o ddiwydiannau hanesyddol a chyfoes sy'n cynnig potensial unigryw i dwristiaeth, a fydd yn ei dro yn gwella'r economi lleol. Bydd y prosiect yn datblygu ardal graidd, yna casgliad o atyniadau bychain, a fydd yn gwasgaru budd economaidd ehangach i ardal amgylchynol LAG.

Bydd y datblygiad cyntaf yn edrych ar y potensial i ddatblygu cynnyrch twristiaeth a fydd yn cwmpasu y thema 'Diwydiant Drwy'r Oesoedd' ar hyd arfordir gogleddol Cadwyn Clwyd.

Bydd yr ail yn canolbwyntio ar rwydwaith o gynhyrchion unigryw i dwristiaeth yng ngweddill ardal yr LAG gan dargedu yn bennaf pentrefi diwydiannol y gorffennol, mewn ardaloedd megis Tafarn y Celyn (Loggerheads) a Dyffryn Alyn, Mynydd Helgain - Gweithfeydd Plwm, Dyffryn Dyfrdwy, Dyffryn Clwyd ac Argraffdy Gwas Gee.

Mae gan yr ardaloedd a grybwyllwyd gyfoeth o weddillion diwydiannol sydd angen eu gwarchod, eu dehongli a'u datblygu gan sicrhau cynnyrch o ansawdd a fydd yn cael ei rwydweithio'n effeithiol nad ydyw wedi eu datblygu'n flaenorol ar gyfer budd economaidd.