Cyswllt Ffermio

 
Beth yw Cyswllt Ffermio?

Gwasanaeth newydd wedi'i ddylunio i gynorthwyo teuluoedd ffermio i wella eu busnes ffermio yw Cyswllt Ffermio. Bydd Cyswllt Ffermio yn darparu gwasanaeth dynamig a fydd wedi'i deilwra yn benodol i anghenion y gymuned ffermio.

 
 
Beth fydd Cyswllt Ffermio yn ei ddarparu?

Bydd Cyswllt Ffermio yn darparu dewis o wasanaethau i deuluoedd ffermio, yn cynnwys

 

Cynllun Datblygu Busnes Fferm

Bydd y gwasanaeth yn adolygu'r perfformiad busnes ac yn argymell y dewis gorau ar gyfer y dyfodol. Bydd dulliau o gynyddu'r elw a ffynonellau incwm amgen ar ac oddi ar y fferm yn cael eu hystyried, ynghyd â materion amgylcheddol ac unrhyw anghenion hyfforddiant.

Bydd y Cynllun Datblygu Busnes Fferm yn cael ei lunio gan ymgynghorwyr busnes o'ch dewis chi.

Bydd gan bob daliad yng Nghymru yr hawl i Gynllun Datblygu Busnes Fferm am ddim os ydynt yn bodloni'r meini prawf.

 

Cyfleoedd Hyfforddiant

Bydd Cyswllt Ffermio yn helpu i nodi a darparu mynediad i gyfleoedd hyfforddiant i deuluoedd ffermio.

 

Grantiau Cyfalaf

Yn dilyn cwblhau Cynllun Datblygu Busnes Fferm, bydd modd i chi fanteisio ar ystod o grantiau cyfalaf i gynorthwyo gyda buddsoddi yn y fferm.

 

Rhwydwaith o Ffermydd Arddangos Lleol

Ffermydd llaeth, eidion, defaid, glaswelltir ac organig. Bydd y ffermydd hyn yn arddangos dulliau arferion gorau mewn technegau ffermio ac yn cynorthwyo i drosglwyddo gwybodaeth a thechnoleg newydd i ffermwyr.

 

Gwasanaeth Cynghori Technegol

Drwy Cyswllt Ffermio, bydd ffermwyr yn gallu defnyddio gwasanaeth cynghori arbenigol yn ymwneud ag amaethyddiaeth, arallgyfeirio a choedwigaeth.

 

Trosglwyddo Gwybodaeth / Technolegau newydd

Bydd Cyswllt Ffermio yn sicrhau bod teuluoedd ffermio yn gallu cyrchu a defnyddio technolegau newydd ar eu fferm eu hunain.

 

Cyngor am yr Amgylchedd / Rheoli Llygredd

Bydd hyn hefyd ar gael am ddim drwy gyfrwng Cyswllt Ffermio.

 
Sut y ceir sicrwydd ansawdd y gwasanaeth?

Eich gwasanaeth chi yw hwn, byddwch yn cael cyfle i roi adborth un ai drwy linell gymorth am ddim neu eich hwylusydd. Bydd cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal â'r undebau amaethyddol a'r Clybiau Ffermwyr Ifanc.

 
Beth yw'r cynllun tymor hir ar gyfer Cyswllt Ffermio?

Bydd Cyswllt Ffermio yn addasu ac yn newid dros amser i ddiwallu anghenion ffermwyr. Bydd canlyniadau'r mecanwaith sicrwydd ansawdd yn cael eu defnyddio i wella'r gwasanaeth.

 
Sut fedrwch chi gael gwasanaeth Cyswllt Ffermio?

Bydd rhwydwaith o hwyluswyr Cyswllt Ffermio a fydd yn ymroi i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i chi.

Bydd yr hwyluswyr yn gweithredu fel y cyswllt rhwng Cyswllt Ffermio a'r gymuned ffermio yng Nghymru. Byddant yn eich cynorthwyo ag ymholiadau o ddydd i ddydd ac yn hwyluso mynediad i wasanaethau lleol.

 
Sut fedra i gysylltu â Hwylusydd Cyswllt Ffermio?

Gallwch gysylltu â Mr David Williams (Hwylusydd Sir Ddinbych) neu Mr Gerwyn Davies (Hwylusydd Sir y Fflint) ar 01824 705802 neu drwy e-bost david.willaims@cadwynclwyd.co.uk / gerwyn.davies@cadwynclwyd.co.uk