Amaethyddiaeth

 
Bwyd Clwyd

Prif nod Bwyd Clwyd yw codi proffil cynhyrchion bwyd a gynhyrchir yn lleol. Ein nod yw hyrwyddo cynhyrchion fel rhai o'r radd flaenaf â delwedd amgylcheddol cryf.

Un o amcanion prosiect Bwyd Clwyd yw cefnogi marchnadoedd cynhyrchwyr lleol, fel Marchnad Ffermwyr Glyndwr, Marchnad Ffermwyr Celyn, Marchnad Cynhyrchwyr Dinbych a marchnadoedd Sefydliad y Merched lleol. Mae'r prosiect yn cefnogi hybu cynhyrchion arbenigol, penodol fel Eirin Dinbych ac Eirin Mair Sir y Fflint. Ar hyn o bryd rydym yn cynorthwyo Marchnad Ffermwyr Celyn i sefydlu cynllun dosbarthu nwyddau mewn bocsys. Rydym hefyd yn edrych ar ddatblygu cegin cymunedol, lle gall y rhai newydd i'r sector bwyd brofi a threialu cynhyrchion bwyd newydd. Bydd Cyfeiriadur Bwyd Clwyd hefyd yn cynorthwyo i gryfhau'r cysylltiadau rhwng y sector lletygarwch lleol a'r sector bwyd. Rydym hefyd yn anelu at godi proffil yr ardal ymhlith ymwelwyr fel ardal bwydydd o'r ansawdd uchaf.

 
 
Profiad Ffermydd Clwyd

Bwriad Profiad Ffermydd Clwyd yw creu cysyniad hollol newydd ac arloesol mewn gwyliau fferm. Ein nod yw creu rhwydwaith o lety ffermydd a gweithgareddau ar y fferm fel marchogaeth, llwybrau cerdded yn y coed, fferm agored, beicio/gyrru cerbydau oddi ar y ffordd ac ati. Bydd y rhwydwaith yn cael ei farchnata ar y cyd, gyda'r nod o ddarparu golwg newydd ar y diwydiant amaethyddiaeth. Rydym yn cynnal cynllun grant bychan i gynorthwyo ffermydd sy'n sefydlu mentrau newydd yn y sector twristiaeth amaeth. Bydd y rhwydwaith yn cael ei ddefnyddio fel cyfleuster addysgol hefyd i hybu gwell dealltwriaeth o ddulliau cynhyrchu bwyd a'r angen am reolaeth amaethyddol sensitif. Ein nod yw cynorthwyo busnesau fferm wrth arallgyfeirio a chreu atyniadau twristiaeth er budd cymunedau gwledig a thwf economaidd.

Eco-Fferm Clwyd

Mae Eco-Fferm Clwyd yn edrych ar brosiectau peilot dyfeisgar ond cynaliadwy sy'n ceisio gwella cynaliadwyedd amgylcheddol diwydiannau lleol wedi'u seilio ar y tir. Mae'r prosiect yn hybu defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy a defnyddio egni adnewyddol i ymelwa ar sectorau busnes newydd.

Mae'r prosiectau peilot yn cynnwys a) defnyddio sglodion pren yn lle gwellt fel gwely i anifeiliaid ac ymchwilio i wahanol ddefnyddiau ar gyfer y gwastraff sy'n deillio o hynny. Bydd y prosiect yn edrych ar ddefnyddio'r cynnyrch dan do mewn siediau yn ogystal â mewn corlanau awyr agored. Ar hyn o bryd rydym wrthi'n sefydlu treialon yn Llysfasi ac rydym yn chwilio am ffermydd eraill i gymryd rhan yn y treialon; b) Rheoli rhedyn a'i gompostio; c) Prosiectau compostio. Hefyd mae potensial i greu atyniadau ymwelwyr o'r mentrau newydd hyn.

Coetir Clwyd

Nod Coetir Clwyd yw annog mentrau presennol a newydd i wneud y defnydd gorau o adnoddau coetir, gan ymelwa ar yr adnoddau mewn modd sympathetig er budd economaidd. Ar hyn o bryd rydym wrthi'n cynhyrchu cyfeirlyfr o'r holl fusnesau yn y diwydiant coed a phren, fydd yn cael ei ddefnyddio fel llyfryn gwybodaeth gan ddefnyddwyr, a bydd yn cael ei ddosbarthu at ddibenion addysgol hefyd. Mae prosiectau eraill yn cynnwys ailgyflwyno hen fathau o goed ffrwythau ac ailsefydlu perllanau. Gall Coetir Clwyd gynorthwyo gyda marchnata cynhyrchion coetir neu bren newydd.