Cyflwyniad |
Beth yw LEADER+
Menter y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer cynorthwyo cymunedau
gwledig i wella ansawdd bywyd a ffyniant economaidd yn eu hardal leol yw
LEADER+. LEADER+ yw'r drydedd Rhaglen LEADER, yn dilyn LEADER I a II.
Mae'r rhaglen LEADER+ yn weithredol o 2000 i 2006, a'i nod
yw annog a chefnogi gweithredwyr gwledig i feddwl am botensial tymor hir eu
hardal. Mae'n ceisio annog cyflwyno a gweithredu strategaethau gwreiddiol,
integredig o'r ansawdd uchaf ar gyfer gyfer dabtlygu cynaliadwy, wedi'u dylunio
i annog arbrofi â dulliau newydd o:
|
· |
Gyfoethogi'r dreftadaeth naturiol a diwylliannol
|
|
· |
Atgyfnerthu'r amgylchedd economaidd, er mwyn
cyfrannu i greu swyddi |
|
· |
Gwella galluoedd trefnu cymunedau |
|
Beth yw Cadwyn Clwyd |
|
Asiantaeth datblygu gwledig sy'n darparu cymorth ariannol a
chefnogaeth i gymunedau a grwpiau yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych a Sir y
Fflint drwy'r rhaglen Ewropeaidd LEADER+ yw Cadwyn Clwyd. Rydym yn gweithio'n
uniongyrchol â chymunedau a grwpiau i feithrin arloesedd ac arallgyfeirio
er budd yr economi leol. |
Pa fath o grwpiau cymunedol sy'n elwa o gefnogaeth Cadwyn
Clwyd? |
|
Gallai'r grwpiau isod elwa o gymorth a chefnogaeth Cadwyn
Clwyd: |
| |
|
· |
Cymunedau Pentref/Tref |
|
· |
Grwpiau/Grwpiau cydweithredol Amaethyddol |
|
· |
Grwpiau Bwydydd Arbenigol |
|
· |
Cymdeithasau Twristiaeth |
|
· |
Grwpiau Gwyl |
|
· |
Grwpiau Diwylliannol/Celfyddydol |
|
· |
Grwpiau Busnes |
|
· |
Siambrau Masnach |
|
Pa fathau o brosiectau y rhoir cefnogaeth iddynt?
|
|
Prosiectau sy'n newydd neu'n arloesol, yn cael eu arwain gan
y bobl ac sy'n gallu dangos y gallant fod yn gynaliadwy yn dilyn derbyn
cefnogaeth Cadwyn Clwyd. |
Gall Cadwyn Clwyd gefnogi prosiectau sy'n gwneud y defnydd
gorau o adnoddau naturiol a diwylliannol ardal yn y sectorau a ganlyn:
|
|
· |
Arallgyfeirio Amaethyddol |
|
· |
Bwyd-Amaeth a Bwydydd Arbenigol |
|
· |
Cynlluniau Amgylcheddol |
|
· |
Twristiaeth Ddiwylliannol |
|
· |
Twristiaeth Gwyrdd |
|
· |
Treftadaeth |
|
· |
Prosiectau ar y cyd ag ardaloedd gwledig eraill yn
Ewrop |
|
Cadwyn Clwyd Policies
Nodwch y bydd rhaid cael
"Adobe Reader"
(ar gael yma) i gael golwg ar y dogfennau hyn.
|