|
Asiantaeth datblygu gwledig yw Cadwyn Clwyd sy'n darparu
cymorth ariannol a chefnogaeth i gymunedau a grwpiau yn ardaloedd gwledig Sir
Ddinbych a Sir y Fflint.
Mae'r rhaglen LEADER+ yn cael ei datblygu a'i rheoli gan
Cadwyn Clwyd (partneriaeth leol sy'n cynnwys sefydliadau cyhoeddus, preifat a
gwirfoddol/ cymunedol).
Rydym yn goruchwylio cronfa ariannol gwerth
£1.1 miliwn (cyllid gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r Undeb Ewropeaidd) am
y cyfnod o Ionawr 2002 i Fehefin 2004, yn ogystal â £150,000 y
flwyddyn gan Gweithredu dros Gymunedau Gwledig.
Rhoir yr arian hwn i
gefnogi prosiectau lleol sy'n helpu i gynnal yr economi a chymunedau gwledig yn
ardaloedd gwledig Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Rydym yn gweithio'n uniongyrchol
â chymunedau a grwpiau i feithrin arloesedd, dyfeisgarwch ac
arallgyfeirio er budd yr economi leol. |