Mynd a chynnyrch newydd i'r farchnad - Sir y Fflint

Prosiect Ardal: Bwyd-amaeth a Choedwigaeth
Sir: Sir y Fflint

Swyddog y Prosiect: Lowri Williams
Echel: 4


Mae'r gweithgaredd hwn yn ymwneud a helpu busnesau micro newydd a sefyledig - yn cynnwys y rhai hynny sy'n gweithio ym meysydd amaeth, bwyd a choedwigaeth - i wireddu eu syniadau ar gyfer lansio cynnyrch a gwasnaethau newydd cyffrous.

Gyda chyngor arbenigol gan ddylunwyr, arbenigwyr marchnata, arbenigwyr cyfreithiol ac ysgolheigion, mae cefnogaeth ar gael i helpu gyda phob cam o ddatblygiad, o astudiaethau dichonoldeb, ymchwil y farchnad, profi a phrototeipio drwodd i fynd a'r cynnyrch terfynol i'r farchnad.

Mae grant o hyd at £5000 ar gael tuag at offer prosesu a chostau marchnata megis pecynnu proffesiynnol, gwaith graffeg a dylunio gwefannau.

Gallai prosiectau cymwys gynnwys pethau fel profi cynnyrch newydd ac ymchwil 'oes silf' yn y Ganolfan Technoleg Bwyd, ymchwil i ddichonoldeb lansio cynnyrch sy'n newydd i'r ardal yn ogystal a help tuag at gostau ymweld a, ac arddangos cynnyrch mewn gwyliau ac arddangosfeydd bwyd.

Delweddau