Marchnata cynnyrch lleol yn llwyddiannus - Sir y Fflint
August 30, 2011
Prosiect Ardal: Bwyd-amaeth a Choedwigaeth
Sir: Sir y Fflint
Swyddog y Prosiect: Lowri Williams
Echel: 4
Mae'r gweithgaredd hwn yn ymwneud a hyrwyddo a chefnogi bwyd lleol a'r bobl sy'n ei gynhyrchu a'i nod yw rhoi hwb i brosiectau a'i nod yw rhoi hwb i brosiectau arloesol nad ydynt yn dod dan ddarpariaethau cynlluniau grant eraill.
Gan adeiladu ar waith diweddar gyda chynhyrchwyr o bob rhan o'r ardal, mae'r gweithgareddau hwn yn ymwneud ag annog dull cydweithredol o becynnu, marchnata a gwerthu; hyrwyddo'r defnydd o fwyd lleol yn y sector croeso a hybu cadwyni cyflenwi lleol.
Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer mentrau cydweithredol a chymdeithasol, help i ddod o hyd i ffynonellau a gynnyrch a bod yn fwy cynaliadwy, yn ogystal a help ar gyfer pethau fel astudiaethau dichonoldeb, cynllunio busnes a gwasanaethau ymghynori.
Gallai prosiectau cymwys gynnwys pethau fel sefydlu canolfannau bwyd, canolfannau dosbarthu lleol a llwybr bwyd, a gellid hefyd roi cefnogaeth i ddigwyddiadau lleol - o farchnadoedd bychan mewn ysgolion a neuadd fwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol i ddigwyddiadau bwyd mwyaf rhanbarth, gan gynnwys Gwyliau Bwyd y Wyddgrug a Llangollen.

