Diogelu a hyrwyddo asedau naturiol a threftadaeth Sir y Fflint

Prosiect Ardal: Yr Amgylchedd a Threftadaeth
Sir: Sir y Fflint

Swyddog y Prosiect: Sarah Jones
Echel: 4


Mae'r gweithgaredd hwn yn ymwneud a diogelu safleoedd naturiol a diwylliannol pwysig Sir y Fflint a Sir Ddinbych gan eu hyrwyddo fel atyniad twristiaeth.  Ei nod yw cynnwys pobl ifanc (rhwng 16 a 24 nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant) mewn gwaith gwirfoddol a phrosiectau cysgodi gweithwyr mewn safleoedd sy'n cynnwys;

  • AHNE Bryniau Clwyd
  • Safleoedd o Diddordeb Gwyddonol Arbennig Helygain a Thalacre
  • Safleoedd Treftadaeth y Byd Pontcysyllte a Chamlas Llangollen
  • Mynyddoedd y Berwyn
  • ledled ardaloedd gwledig Sir y Fflint

Mae cymorth ar gael i grwpiau ar gyfer prosiectau megis;

  • hyfforddiant cadwraeth
  • cynnal a chadw amgylcheddol
  • cefnogaeth marchnata
  • gwaith bioamrywiaeth
  • astudiaethau ar gyfer cynnal prosiectau adfer

Mae'r gweithgaredd yn ymwneud ag annog busnesau a chymdeithasau twristiaeth lleol - megis cynghorau cymuned a grwpiau bywyd gwyllt - i weithio gyda'i gilydd i gynyddu nifer yr ymwelwyr nid yn unig a'r safleoedd pwysig hyn ond a'r ardal yn gyffredinol.

Delweddau