Cadwraeth gwrychoedd a ffiniau traddodiadol Sir y Fflint
August 30, 2011
Prosiect Ardal: Yr Amgylchedd a Threftadaeth
Sir: Sir y Fflint
Swyddog y Prosiect: Sarah Jones
Echel: 4
Mae'r gweithgaredd hyn yn ymwneud a diogelu a chynnal gwrychoedd a ffiniau traddodiadol tiroedd fferm Sir y Fflint a Dinbych ac fe'i cynigir i ffermwyr ac aelodau eraill o'r gymuned amaethyddol i'w cynorthwyo i wneud gwaith cadwraeth ar eu tir.
Mae cefnogaeth ariannol ar gael drwy'r Grant Gwrychoedd a Ffiniau Traddodiadol ar gyfer prosiectau sy'n cynnwys;
- adfer ffiniau naturiol megis waliau cerrig, cloddiau a gwrychoedd
- adfer cynefinoedd wedi'u diraddio ar lannau afonydd
- symud rhywogaethau dieithr neu ymwthiol a phlannu grwpiau bychan o goed cynhenid
Ond brysiwch - dim ond ar sail y cyntaf i'r felin y mae'r grant hwn ar gael.

