Prosiect Menter Sir y Fflint
August 26, 2011
Prosiect Ardal: Menter Bwrsariaeth Pobl Ifanc
Sir: Sir y Fflint
Swyddog y Prosiect: Sian Elen Jones
Echel: 3
Mae'r prosiect tair rhan cyffrous hwn yn cynnig cyfleoedd newydd ardderchog i bobl ifanc yn Sir y Fflint.
Mae rhan gyntaf y prosiect yn ymwneud a rhoi cyngor a chymorth i fusnesau newydd, gan gynnwys help i ysgrifennu cynlluniau busnes, gwneud ymchwil y farchnad a chynllunio ariannol gyda chefnogaeth mentoriaid profiadol.
Mae ail ran y prosiect yn rhoi cymorth ariannol ar gyfer dechrau busnes trwy gynnig bwrsariaeth o hyd at £2000 i bobl ifanc rhwng 16 a 30 oed a phobl ddi-waith dros 30 oed i'w helpu a chostau cychwynnol sefydlu busnes, er enghraifft offer, marchnata ac ymchwil y farchnad.
Mae trydydd rhan y prosiect yn rhoi cyfle i grwpiau o entrepreneuriaid ifanc rhwng 11 ac 16 fynychu gweithdai 'blasu' fydd yn rhoi gwybodaeth iddynt am y broses o sefydlu busnes ac yn eu hysbridoli i ddatblygu syniad arloesol yn eu cymunedau eu hunain.




