Dathliadau Diwylliannol Sir y Fflint
December 23, 2009
Prosiect Ardal: Gwyliau a Digwyddiadau
Sir: Sir y Fflint
Swyddog y Prosiect: Andrew Redfern
Echel: 3
Beth ydy’r prosiect?
Bydd y prosiect yn helpu i hybu a dathlu diwylliant Sir y Fflint wledig. Gallwn weithio gyda grwpiau cymwys gan roi cymorth unigol, cefnogaeth a nawdd ariannol i helpu i ddatblygu digwyddiadau, marchnata a hyrwyddo digwyddiadau ar y cyd ac ychwanegu at sgiliau trefnwyr digwyddiadau a gwirfoddolwyr. Yn ogystal â gwyliau a digwyddiadau gallwn hefyd roi cymorth i grwpiau gyda phrosiectau i ddathlu diwylliant lleol ar ba bynnag ffurf.
Bydd y mathau canlynol o gymorth ar gael:
-
Cyngor a chymorth
Cyngor a chyngor i grwpiau yn ogystal a chyfleusterau ar-lein fydd yn galluogi grwpiau i gael mynediad at wybodaeth ddefnyddiol ac arfer gorau. -
Cynyddu gallu
Cynigir cyngor cynyddu gallu i grwpiau sydd naill ai eisoes yn cynnal digwyddiadau a gwyliau neu sy’n gobeithio datblygu rhai newydd. Rhoddir cymorth ar faterion megis marchnata, cynaladwyedd digwyddiadau, cynnal digwyddiadau dwyieithog, trwyddedu, cynllunio digwyddiadau ac asesiadau risg. -
Ariannu
Gall trefnwyr digwyddiadau wneud cais am arian i ddatblygu digwyddiadau newydd ac i ddatblygu digwyddiadau sydd eisoes yn bodoli.
Sut allwn ni helpu?
Pa weithgareddau sy’n gymwys?
Gallai costau cymwys gynnwys costau gweithgareddau marchnata a hyrwyddo, costau llogi lleoliad, costau perfformwyr, ymchwil a chostau trefnu.
Pwy all wneud cais?
Cynghorau Tref a Chymuned, grwpiau busnes, grwpiau gwirfoddol, grwpiau cymunedol, clybiau a chymdeithasau yn Sir y Fflint wledig.
Hanes/ Enghreifftiau o Brosiectau
Mae’r prosiect Dathliadau Diwylliannol eisoes wedi helpu nifer o grwpiau cymunedol i ddarparu mentrau. Dyma rai enghreifftiau:
Gŵyl Lyfrgar Gwaenysgor
Noddodd Cadwyn Clwyd gostau perfformwyr a gweithdai yn ystod gŵyl Lyfrgar Gwaenysgor rhwng 17-20 Medi. Cafodd yr ŵyl ganmoliaeth gan y bardd Les Baker fu’n perfformio yn yr ŵyl pan lansiwyd llyfr barddoniaeth cymunedol o’r enw ‘Forget Me Nots’. Roedd uchafbwyntiau’r Ŵyl yn cynnwys digwyddiad adrodd straeon, noson penillion a gwin, ffair lyfrau a sgwrs gan David Rowe, awdur llyfr newydd o’r enw Pubs of Flintshire, sy’n cynnwys darn am dafarn yr Eagle and Child yng Ngwaenysgor.
Plac a Chyngerdd David Lloyd
Cafodd Capel y Berthen, Licswm gymorth gan Cadwyn Clwyd i gynnal cyngerdd ac i osod plac er cof am David Lloyd, y tenor o fri. Cymerodd Rhys Meirion ran yn y cyngerdd a gafodd ei gynnal yn ymyl cae’r eisteddfod lle daeth David Lloyd i enwogrwydd yn ddim ond 21 oed ym 1933. Cafodd David Lloyd, oedd yn enedigol o Trelogan, ei anrhydeddu yn ystod y cyngerdd pan ddadorchuddiwyd plac sydd wedi ei osod yn wal y cae lle cynhaliwyd yr eisteddfod honno ddaeth a’i dalent i’r amlwg.
I gael gwybod mwy
gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Andrew Redfern ar c01824 705 802 neu anfonwch e-bost at andrew.redfern@cadwynclwyd.co.uk

