Prosiect Bwyd-Amaeth a Choedwigaeth Arloesol Sir y Fflint

Prosiect Ardal: Bwyd-amaeth a Choedwigaeth
Sir: Sir y Fflint

Swyddog y Prosiect: Lowri Williams
Echel: 4


Beth ydy’r prosiect?

Gall Prosiect Bwyd-Amaeth a Choedwigaeth Sir y Fflint roi cymorth a chefnogaeth ariannol i grwpiau yn Sir y Fflint wledig. Bydd y prosiect yn treialu dulliau newydd o gydweithredu er mwyn datblygu cynnyrch, prosesau a thechnolegau newydd yn y sectorau bwyd-amaeth a choedwigaeth.

Nod y cynllun fydd datblygu ac annog;

  • Datblygu Cynnyrch
  • Datblygu Prosesau Newydd
  • Cadwyn Gyflenwi a Marchnata
  • Llwyfannu a Digwyddiadau

Bydd Cadwyn Clwyd yn gweithio gyda grwpiau i ddatblygu a gweithredu’r mentrau.

Datblygu Cynnyrch – wgweithio gyda busnesau fferm a grwpiau i dreialu tyfu ffrwythau, llysiau a pherlysiau sydd ddim yn draddodiadol yn cael eu tyfu yn yr ardal. Ni roddir arian tuag at brynu hadau a phlanhigion ond yn hytrach ar gyfer hyfforddiant a chyngor.

Datblygu Prosesau Newydd – yngor ymgynghorol ar gyfer datblygu cynnyrch neu brosesau newydd yn y sectorau bwyd-amaeth a choedwigaeth. Mae’n bosibl y bydd arian ar gael ar gyfer:

  • astudiaethau dichonolrwydd
  • marchnata
  • cyngor cynllunio busnes

Cadwyn Gyflenwi a Marchnata – sicrhau integreiddiad agosach rhwng cynhyrchwyr sylfaenol a defnyddwyr. Marchnata mentrau i hybu cynnyrch lleol. Mentrau marchnata ar y cyd.

Llwyfannu/Digwyddiadau – treialu dulliau newydd o dynnu sylw ymwelwyr at gynnyrch bwyd e.e. digwyddiadau bwyd a chodi ymwybyddiaeth o fewn y sector lletygarwch. Yn yr elfen llwyfannu edrychir yn fwy manwl ar y cysylltiad rhwng bwyd a thwristiaeth.

  • Arian/cefnogaeth i drefnu a chynnal digwyddiadau bwyd ar raddfa fechan.
  • Costau llogi lleoliad, offer, cyhoeddusrwydd a marchnata.

Astudiaeth Achos

Mae Cadwyn Clwyd yn cefnogi amrywiaeth o grwpiau drwy’r prosiect Bwyd Amaeth a Choedwigaeth Arloesol, mae enghreifftiau yn cynnwys:

Datblygu a Hybu Bwyd Lleol yn yr Wyddgrug a’r cyffiniau
Mae Mabis wedi cael eu penodi i weithio gyda grŵp yn yr Wyddgrug i ddatblygu’r cynnig o fwyd lleol yn Sir y Fflint a’r marchnadoedd posibl ar gyfer y cynnyrch hwn, yn ogystal ag i ddatblygu’r ethos Cittaslow yng Nghanol Tref yr Wyddgrug. Mae partneriaid yn y prosiect yn cynnwys Gŵyl Fwyd a Diod Sir y Fflint, Cyngor Sir y Fflint, Cittaslow yr Wyddgrug a Chyngor Tref yr Wyddgrug. Bydd yr astudiaeth yn edrych ar gynhyrchwyr bwyd presennol a’r sector lletygarwch yn ogystal â datblygu cynllun busnes ar gyfer canolbwynt adwerthu lleol i’r Wyddgrug.

Grŵp Ffrwythau, Llysiau a Pherlysiau
Mae Swyddogion Cadwyn Clwyd wedi sefydlu grŵp Ffrwythau, Llysiau a Pherlysiau sy’n gallu cynnig cyngor rhad ac am ddim gan arbenigwyr ADAS ynglŷn â’u hanghenion a’u cyfleoedd tyfu. Mae Promar International hefyd yn gweithio ar ran y grŵp ar adroddiad ymchwil y farchnad i farchnadoedd posibl ar gyfer cynnyrch y tyfwyr.

Rydym yn parhau i groesawu aelodau newydd i’n grŵp ac yn gobeithio annog garddwriaeth yn ardaloedd gwledig Sir y Fflint.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ar sut i fod yn aelod o’r grŵp Ffrwythau, Llysiau a Pherlysiau cysylltwch â swyddog prosiect Cadwyn Clwyd.

I gael gwybod mwy

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y Prosiect Bwyd-Amaeth a Choedwigaeth Arloesol yn Sir y Fflint, neu os hoffech chi drafod syniad am brosiect – cysylltwch â Lowri Williams drwy ffonio 01824705802 neu anfonwch e-bost at Lowri.williams@cadwynclwyd.co.uk


Eitemau Cysylltiedig