Effeithlonrwydd ynni a lleihau carbon - Sir Ddinbych
August 30, 2011
Prosiect Ardal: Ynni Amgen
Sir: Sir Ddinbych
Swyddog y Prosiect: Silas Jones
Echel: 4
Trwy annog prosiectau lleol sy'n edrych ar sut i leihau ein dibynadwyedd ar danwydd ffosil, mae'r gweithgaredd cyffrous hwn yn ymwneud a galluogi cymunedau a grwpiau, gan gynnwys ffermwyr a busnesau, i gymryd camau positif yn erbyn newidiadau i'r hinsawdd a thlodi tanwydd. Gallai amrywiaeth o brosiectau elw o'r nawdd, gan gynnwys;
- prosiectau sy'n anelu at nweud y defnydd mwyaf effeithiol o ynni mewn adeiladau cymunedol
- prosiectau gwresogi ac ynni adnewyddadwy arloesol
- astudiaethau dichonoldeb i brosiectau ynni adnewyddadwy megis ynni gwynt, dwr a solar
Mae nawdd hefyd ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol sy'n mynd i'r afael a newid i'r hinsawdd - pethau fel
- dyddiau ymwybyddiaeth
- archwiliadau ynni mewn cartrefi, ffermydd a busnesau
- lleihau milltiroedd bwyd a mwy
Gallai amrywiaeth o brosiectau cymunedol elwa ac rydym yn awyddus iawn i glywed eich syniadau!




