Ynni
November 17, 2009
Prosiect Ardal: Ynni Amgen
Sir: Sir Ddinbych
Swyddog y Prosiect: Silas Jones
Echel: 4
Beth ydy’r Prosiect?
Mae’r Prosiect Ynni Cymunedol ac Amaethyddol yn cynnwys nifer o fentrau sy’n anelu at wella cynaladwyedd economaidd ac amgylcheddol busnesau a chymunedau. Bydd elfennau’r prosiect yn peilota dulliau o wneud y defnydd gorau a asedau naturiol ac amgylcheddol yr ardal er budd yr economi a’r gymuned drwy;
- droi cynnyrch gwastraff yn gynnyrch y gellir ei ddefnyddio a’i farchnata
- lleihau costau ffermydd y chynyddu effeithiolrwydd trwy arferion amgylcheddol
- galluogi cymunedau i archwilio dulliau newydd o ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy a lleihau’r defnydd o ynni
Bydd y prosiect yn cael ei roi ar waith fel a ganlyn: y cam dichonolrwydd; y cam peilota ac arbrofi mewn amgylcheddaurheoledig; cam profi cyn-marchnata.
Cynlluniau Ynni Peilot Sir Ddinbych
Gall Cynlluniau Ynni Peilot Sir Ddinbych roi cymorth a chefnogaeth ariannol i grwpiau cymunedol gyda mentrau sy’n lleihau allyriadau carbon neu’n cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Gall hefyd roi’r un cymorth a chefnogaeth ariannol i grwpiau o ffermwyr sy’n dymuno arallgyfeirio. Bydd y prosiect yn hwyluso proses o gyfranogiad cymunedol neu gyfranogiad grwpiau fydd yn galluogi cymunedau i ddynodi, cynllunio a gweithredu’r mentrau.
Grwpiau Targed: Grwpiau Cymunedol, Grwpiau Ffermio
Pa weithgareddau sy’n gymwys?
Mae enghreifftiau o weithgareddau fydd yn gymwys ar gyfer arian yn cynnwys astudiaethau dichonolrwydd, cyngor arbenigol ar ymarferion cynyddu gallu a phrosiectau peilot.
Mae arian ar gael ar gyfer prosiectau sy’n:
- Troi cynnyrch gwastraff yn gynnyrch y gellir ei ddefnyddio a’i farchnata
- Archwilio dulliau newydd o ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy
- Lleihau’r defnydd o ynni
- Prosiectau fydd yn arwain at arallgyfeirio ar ffermydd yn seiliedig ar unrhyw un o’r uchod.
Mae hwn yn brosiect newydd i Cadwyn Clwyd felly byddem yn croesawu
I gael gwybod mwy
I gael mwy o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r uchod, cysylltwch â Silas Jones ar 01824 705802 neu anfonwch e-bost at silas.jones@cadwynclwyd.co.uk

