Datblygu Digwyddiadau Cymunedol
September 05, 2011
Prosiect Ardal: Datblygiad Cymunedol
Sir: Sir y Fflint
Swyddog y Prosiect: Adam Bishop
Echel: 4
Mae'r gweithgaredd cyffrous hwn yn ymwneud a chynnig y nawdd a'r gefnogaeth y bydd grwpiau cymunedol eu hangen i drenfu a rhedeg digwyddiadau gwledig llwyddiannus.
Mae cymorth ar gael i helpu grwpiau lleol i drenfu digwyddiadau ym meysydd;
- chwaraeon a digwyddiadau chwaraeon
- y celfyddydau
- treftadaeth
- sioeau gardd
- celfyddydau perfformio
Cynigir cefnogaeth ar gyfer digwyddiadau newydd a rhai sydd eisioes yn bodoli tuag at bethau fel hyfforddiant ar gyfer trefnwyr a rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau trwy gyfrannu nawdd ar gyfer posteri, taflenni, baneri, gwefannau a hysbyebu.
Trwy helpu grwpiau gwirfoddol lleol i drefnu a chynnal digwyddiadau llwyddiannus, bydd y gweithgaredd hwn nid yn unig yn helpu i annog creadigrwydd, menter ac ymdeimlad cryf o gymuned i ddarparu atebion i faterion lleol a gwneud cyfraniad gwerthfawr tuag at eu heconomi lleol.

