Gwasanaethau Gwledig Sir Ddinbych
January 05, 2010
Prosiect Ardal: Gwasanaethau Gwledig
Sir: Sir Ddinbych
Swyddog y Prosiect: Helen Roberts
Echel: 4
Beth ydy’r prosiect?
Bydd y prosiect yn peilota mentrau newydd sy’n anelu at ddarparu gwasanaethau sylfaenol yn Sir Ddinbych wledig. Ar hyn o bryd mae’r prosiect wedi’i rannu dan y pedwar pennawd canlynol:
Cludiant Cymunedol cyfleusterau - mae enghreifftiau yn cynnwys peilota gwasanaethau cludiant a gwasanaethau cymunedol sy’n ymateb i alw a datblygu siop gymunedol newydd.
Pub is The Hub - rhaglen sy’n annog perchenogion tafarndai, trwyddedai a chymunedau lleol i gydweithio i helpu i gynnal, cadw a gwella mynediad at wasanaethau gwledig sylfaenol.
Gwaith Datblygu – cefnogaeth i wasanaethau gwledig sylfaenol eraill a ddynodwyd yn y Cynllun Datblygu Gwledig megis gweithgareddau hamdden, chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol.
Mynediad at Wasanaethau Hanfodol - menter beilot fydd yn rhoi ymgyrch ar waith yn y cyfryngau i godi ymwybyddiaeth o’r angen am welliant cyffredinol mewn arwyddion yn dangos y ffordd at ffermydd a chartrefi gwledig.
Sut allwn ni helpu?
Bydd y prosiect yn cefnogi mentrau peilot arloesol sy’n newydd i’r ardal leol neu’n cefnogi mentrau sydd eisoes yn bodoli ac sydd am beilota elfen newydd.
Hanes/Enghreifftiau o Brosiectau
Cyfleusterau Cludiant Cyhoeddus
FFLECSI – Cludiant Cyhoeddus Gwledig Sy’n Ymateb i Alw
Bydd y prosiect yn peilota estyniad i’r Cynllun Cludiant Sy’n Ymateb i Alw mewn ardaloedd gwledig drwy gynnig gwasanaeth gwell a mwy hyblyg i gymunedau lle mae’r gwasanaeth yn gyfyngedig ar hyn o bryd. Nid yw’r cynllun wedi cael ei beilota yn Sir Ddinbych wledig hyd yma, felly mae cam peilot yn hanfodol cyn prif ffrydio, os yw’n llwyddiannus, drwy ffynonellau nawdd prif ffrwd. Bydd y prosiect yn darparu’r canlynol:
- Gwasanaeth hyblyg yn ystod y dydd, yn hytrach na gwasanaeth ar adegau penodol ar rai dyddiau yn unig.
- Gwasanaeth 6 diwrnod yr wythnos yn hytrach na’r gwasanaethau bratiog presennol.
- Beth teithwyr yn gallu bwcio gwasanaethau penodol er mwyn sicrhau’r hyblygrwydd eithaf ac i gynyddu cyfleoedd ar gyfer gwahanol siwrneiau.
- Gwasanaeth gyda’r nos newydd (i ganolfannau hamdden ayyb) er mwyn cynorthwyo unrhyw aelod o’r gymuned ond wedi’i anelu’n bennaf at bobl hŷn (i fanteisio ar gyfleoedd i nofio am ddim) a phobl iau (i fanteisio ar wasanaethau hamdden yn gyffredinol).
- Galluogi disgyblion ysgolion uwchradd i fynd adref yn ‘hwyr’ ar ôl cymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl yr ysgol.
- Ymestyn gwasanaethau y tu hwnt i amseroedd penodol neu ddyddiau penodol prin bob wythnos (cyfle am wasanaeth 6 diwrnod yr wythnos rhwng 0900-1500;1630-1800; ar ôl 1800 o’r gloch).
- Mynediad cwbl ddidrafferth i bramiau, cadeiriau olwyn a phobl gydag anableddau symud ayyb.
- Defnyddio TG profedig i gynnal y gwasanaeth a’i ddargyfeirio yn ôl yr angen.
- Defnyddio cerbydau llai fydd yn gallu mynd i mewn i’r ardaloedd gwledig yn rhwyddach (byddai safleoedd bysus yn y pentrefi o hyd ond byddai’r gallu i fynd i ac o’r bysus oddi wrth y safleoedd hyn yn fwy hyblyg).
- Cysylltiadau, lle bynnag bosibl, â’r rhwydwaith bysus strategol ar gyfer lleoedd pellach i ffwrdd (e.e. Ysbyty Glan Clwyd, Wrecsam, yr Wyddgrug ayyb).
- Rhaglen gynhwysfawr o gyfathrebiadau i farchnata’r prosiect
- Monitro llwyddiant y rhaglen a chynnig a gwneud gwelliannau yn ôl yr angen yn ystod y cyfnod peilot.
PUB IS THE HUB
Mae Pub is The Hub yn fenter sydd wedi hen ennill ei phlwyf yn Lloegr ac sy’n annog perchenogion tafarndai, trwyddedai a chymunedau lleol i gydweithio er mwyn cynnal, cadw a gwella mynediad at wasanaethau gwledig sylfaenol. Prif fwriad PUB IS THE HUB ydy annog cymunedau lleol i weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth ar y cyd, waeth beth yw eu cefndir, a hefyd edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio adeiladau eraill (yn ogystal â’r dafarn) fel canolfannau cymdeithasol ac economaidd i fod wrth galon eu cymunedau, yn arbennig felly os yw’r dafarn leol eisoes wedi cau.
Bydd y prosiect yn galluogi cymunedau yn Sir Ddinbych wledig i edrych ar ffyrdd arloesol o sicrhau bod tafarndai lleol yn parhau i fod yn berthnasol i anghenion eu cymunedau lleol, a hefyd, lle bo hynny’n berthnasol, yn annog trigolion pentrefi i sefydlu mentrau cydweithredol i brynu’r dafarn er mwyn gofalu y caiff ei chadw fel canolbwynt gwasanaethau yn eu hardal leol.
Bydd y prosiect, mewn partneriaeth a menter PUB IS THE HUB, yn ceisio annog menter gymdeithasol ac arallgyfeirio tafarndai a fyddai’n gallu cynnal llawer o’r gwasanaethau gwledig sydd naill ai dan fygythiad neu sydd wedi darfod yn ddiweddar.
Bydd y prosiect yn darparu arian ar gyfer cyngor ac arweiniad proffesiynol, cynyddu gallu, astudiaethau dichonolrwydd a chynllunio busnes a bydd yn cefnogi cynllun grant i beilota mentrau newydd dan y rhaglen.
Mae’r prosiect hwn yn gwbl arloesol i Sir Ddinbych wledig ac yn wir i Gymru wledig, a bydd yn rhedeg fel peilot yn Sir Ddinbych wledig gyda’r bwriad, os bydd yn llwyddiannus, o’i brif ffrydio drwy ffynonellau eraill o nawdd ar ôl Rhagfyr 2010. Bydd y prosiect hefyd yn cael ei weithredu gan roi’r sylw dyladwy i Gynllun Manwerthwr Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu rhwng PUB IS THE HUB yn Sir Ddinbych wledig a’r gefnogaeth sydd eisoes yn bodoli ar hyn o bryd drwy LCC.
Gwaith Datblygu
Yn ychwanegol at y ddau faes o waith prosiect a amlinellwyd uchod, bydd y prosiect hefyd yn cefnogi mynediad at wasanaethau sylfaenol nad ydynt efallai’n cael sylw uniongyrchol drwy’r Cynllun Cludiant sy’n Ymateb i Alw a’r fenter Pub is The Hub. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau sylfaenol megis:
- gweithgareddau hamdden, chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol
- cyfleusterau gofal plant
- gwasanaethau cludiant ar wahân i gludiant sy’n ymateb i alw
- gwasanaethau telathrebu
- gwasanaethau manwerthu.
Bydd y prosiect yn rhoi cefnogaeth ar gyfer gwaith datblygu cyn-fasnachol e.e. ymgynghoriad, astudiaethau dichonolrwydd, cynllunio busnes, cynyddu gallu. Yn ychwanegol bydd yn cynnig cefnogaeth ar gyfer peilota’r elfennau a restrir uchod unwaith y bydd y gwaith paratoadol cychwynnol wedi’i wneud. Bydd yr elfen hon hefyd yn cael ei gweithredu gan dalu’r sylw dyladwy i Gynllun Manwerthwr Gwledig LlCC er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu rhwng PUB IS THE HUB yn Sir Ddinbych wledig a’r gefnogaeth sydd eisoes ar gael drwy LCC.
Mynediad at Wasanaethau Hanfodol
Codi Ymwybyddiaeth Cymunedau Gwledig
Mewn partneriaeth â Strategaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych, bydd y prosiect yn cefnogi menter beilot fydd yn rhoi ymgyrch ymwybyddiaeth ar waith yn y cyfryngau i dynnu sylw at yr angen am welliant cyffredinol mewn arwyddion yn dangos y ffordd at ffermydd a chartrefi gwledig. Yn ychwanegol, bydd arwyddion yn cael eu codi mewn mannau allweddol.
Heb wybodaeth leol ac er gwaethaf y datblygiadau mewn cymhorthion technolegol megis meddalwedd mapio cyfrifiadurol a systemau llywio lloeren, mae’r gwasanaethau brys yn parhau i gael anawsterau o ran dod o hyd i ffermydd a chartrefi mewn ardaloedd gwledig yn gyflym. Mae amser gwerthfawr yn cael ei golli wrth i’r gwasanaethau geisio dod o hyd i gyfeiriadau – amser a allai yn y pen draw roi bywydau yn y fantol. Mae’r prosiect hwn wedi cael ei gymeradwyo gan y Gwasanaethau Brys, Cyngor Sir Ddinbych a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych a bwriedir ei redeg fel peilot yn Sir Ddinbych wledig gyda’r nod o’i ledaenu i ardaloedd eraill os yw’n llwyddiannus.
Nodir bod y prosiect yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â Mesur Echel 3 y Cynllun Datblygu Gwledig sef ‘mynediad at wasanaethau sylfaenol’. Mae galluogi’r gwasanaethau brys i ddarparu gwasanaethau hanfodol a chyflym mewn ardaloedd gwledig yn angen sylfaenol. O gymharu ag ardaloedd trefol, mae posibilrwydd y bydd cymunedau yn Sir Ddinbych wledig dan anfantais o ran cael mynediad cyflym at y gwasanaethau hyn am y rheswm eu bod yn anghysbell.
Nodir hefyd nad yw’r prosiect yn noddi’n uniongyrchol unrhyw ddyletswydd statudol sydd ar y gwasanaethau brys. Yn hytrach mae ei bwyslais ar alluogi cymunedau gwledig i gael mynediad cyflym at wasanaethau sylfaenol a thrwy hynny leihau’r agweddau negyddol y mae cymunedau Sir Ddinbych wledig yn eu hwynebu o ganlyniad i’w gwledigrwydd.
I gael gwybod mwy
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r cynlluniau uchod cysylltwch â Helen Roberts ar 01824 705802 neu anfonwch e-bost at helen.roberts@cadwynclwyd.co.uk

