Twristiaeth Werdd Sir Ddinbych
September 27, 2011
Prosiect Ardal: Twristiaeth Wledig
Sir: Sir Ddinbych
Swyddog y Prosiect: Ceri Hughes
Echel: 3
Gan gymryd ysbrydoliaeth o statws AHNE Bryniau Clwyd fel rhan o Europarc (y ffederasiwn sy'n diogelu amgylcheddau naturiol Ewrop), mae'r prosiect hwn yn defnyddio egwyddorion Europarc i annog twristiaeth gynaliadwy ledled Sir Ddinbych.
Gan ganolbwyntio ar ddiwylliant, treftadaeth a'r amgylchedd naturiol, nod y prosiect yw gwneud newidiadau positif i dwristiaeth er mwyn annog mwy o bobl i ymweld a'r sir, eu hannog i aros yn hirach a gwneud Sir Ddinbych yn ardal sydd yn denu ymwelwyr gydol y flwyddyn.
Mae'r prosiect yn derych ar dulliau newydd o hyrwyddo'r tirlun naturiol a threftadaeth y sir, yn cefnogi cymdeithasau a grwpiau twristiaeth ac yn helpu busnesau twristiaeth i lansio cynnyrch, gwasanaethau a digwyddiadau newydd.
Mae'r prosiect hefyd yn anelu at hybu marchnad ymwelwyr Sir Ddinbych trwy gysylltu popeth sydd ar gael, er enghraifft cysylltu llwybrau beicio mynydd gyda gwestai a lletyau; rhwydweithiau llwybrau troed gyda busnesau gwledig a llwybrau cerdded gyda digwyddiadau diwylliannol.




