Bwrsariaeth Menter Sir Ddinbych
August 26, 2011
Prosiect Ardal: Menter Bwrsariaeth Pobl Ifanc
Sir: Sir Ddinbych
Swyddog y Prosiect: Sian Elen Jones
Echel: 3
Mae'r prosiect hwn yn rhoi cyfle gwych i bobl Sir Ddinbych wledig sefydlu a datblygu eu busnesau eu hunain trwy gynnig grantiau o £2000 i bobl ifanc rhwng 16 a 30 ac i bobl ddi-waith dros 30.
Ynghyd a chymorth ariannol a chyngor busnes gan bobl broffesiynol profiadol, mae'r prosiect yn cynnig cefnogaeth gan fentor fydd yn rhoi arweiniad yn ystod camau cychwynol sefydlu busnes bychan yn ogystal a chyngor ac anogaeth wedi hynny i helpu'r busnes i ffynnu.
Trwy helpu i ysbrydoli gweithgaredd busnes newydd yn Sir Ddinbych wledig, mae'r prosiect yn ymwneud a hybu cyfleoedd cyflogaeth yng nghefn gwlad, helpu cymunedau lleol i ffynnu a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywiogrwydd ardaloedd gwledig Sir Ddinbych.




