Treftadaeth Gymunedol

Prosiect Ardal: Treftadaeth Cymunedol
Sir: Sir Ddinbych

Swyddog y Prosiect: Adam Bishop
Echel: 4


Beth ydy’r prosiect?

Gall cynlluniau Treftadaeth Gymunedol Sir Ddinbych gynnig cymorth a chefnogaeth ariannol i grwpiau gyda phrosiectau treftadaeth naturiol a diwylliannol. Ein nod yw hybu, diogelu ac uwchraddio treftadaeth wledig y Sir. Mae’r dreftadaeth hon yn cwmpasu popeth y mae Sir Ddinbych wledig heddiw wedi’i hetifeddu, yn cynnwys yr amgylchedd naturiol ac adeiledig, celf, llenyddiaeth, iaith, traddodiadau a hanes.

Sut allwn ni helpu?

Gall y cynlluniau roi cefnogaeth ariannol tuag at amrywiaeth o gostau sy’n rhan o brosiect, megis costau astudiaethau dichonolrwydd, ymgynghoriadau, cyngor arbenigol, deunydd dehongli, hanes llafar, digwyddiadau, arddangosfeydd, perfformiadau, marchnata, gwaith celf, llenyddiaeth a gwefannau. 

Pwy all wneud cais?

Mae grwpiau cymwys yn cynnwys Cynghorau Lleol, Tref a Chymuned, grwpiau busnes, grwpiau gwirfoddol, grwpiau cymunedol, clybiau a chymdeithasau yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych. Bydd Cadwyn Clwyd yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r grwpiau cymunedol hyn i ddatblygu’r prosiectau.

Enghreifftiau o Brosiectau/Hanes

Mae’r prosiect Treftadaeth Gymunedol eisoes wedi helpu sawl grŵp cymunedol - Gweler enghraifft isod:

Drysau Agored Sir Ddinbych
Ym mis Medi, cynhaliwyd tri digwyddiad ar dri penwythnos yn olynol i ddangos y cyfoeth o dreftadaeth a phensaernïaeth sydd gan Sir Ddinbych Wledig i’w cynnig. Agorodd trefi hanesyddol Dinbych (12fed, 13eg Medi), Llangollen (19eg, 20fed Medi) a Rhuthun (26ain, 27ain o Fedi) eu drysau ac agorodd sawl adeilad hanesyddol yn y trefi gwledig hyn eu drysau hwythau – llawer ohonynt nad ydynt fel arfer yn agored i’r cyhoedd - i drigolion lleol ac ymwelwyr. Gwnaed y profiad yn fwy cyfoethog a byw gyda sgyrsiau a theithiau wedi’u hebrwng o amgylch y safleoedd. Talodd Cadwyn Clwyd am y taflenni hysbysebu ac am arweinlyfr manwl yn cynnwys trefn y penwythnosau, mapiau a gwybodaeth am yr adeiladau oedd yn rhan o’r digwyddiadau.

I gael gwybod mwy

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Adam Bishop ar 01824 705 802 neu anfonwch adam.bishop@cadwynclwyd.co.uk


Eitemau Cysylltiedig