Prosiect Bwyd-Amaeth a Choedwigaeth Arloesol Sir Ddinbych

Prosiect Ardal: Bwyd-amaeth a Choedwigaeth
Sir: Sir Ddinbych

Swyddog y Prosiect: Robert Price
Echel: 4


Beth ydy’r prosiect?

Gall Prosiect Bwyd-Amaeth a Choedwigaeth Sir Ddinbych roi cymorth a chefnogaeth ariannol i grwpiau yn Sir Ddinbych wledig. Bydd y prosiect yn treialu dulliau newydd o gydweithredu er mwyn datblygu cynnyrch, prosesau a thechnolegau newydd yn y sectorau bwyd-amaeth a choedwigaeth.

Nod y cynllun fydd datblygu ac annog;

  • Datblygu Cynnyrch
  • Datblygu Prosesau Newydd
  • Cadwyn Gyflenwi a Marchnata
  • Llwyfannu a Digwyddiadau

Bydd Cadwyn Clwyd yn gweithio gyda grwpiau i ddatblygu a gweithredu’r mentrau.

Datblygu Cynnyrch – gweithio gyda busnesau fferm a grwpiau i dreialu tyfu ffrwythau, llysiau a pherlysiau sydd ddim yn draddodiadol yn cael eu tyfu yn yr ardal. Ni roddir arian tuag at brynu hadau a phlanhigion ond yn hytrach ar gyfer hyfforddiant a chyngor.

Datblygu Prosesau Newydd – cyngor ymgynghorol ar gyfer datblygu cynnyrch neu brosesau newydd yn y sectorau bwyd-amaeth a choedwigaeth. Mae’n bosibl y bydd arian ar gael ar gyfer:

  • astudiaethau dichonolrwydd
  • marchnata
  • cyngor cynllunio busnes

Cadwyn Gyflenwi a Marchnata – sicrhau integreiddiad agosach rhwng cynhyrchwyr sylfaenol a defnyddwyr. Marchnata mentrau i hybu cynnyrch lleol. Mentrau marchnata ar y cyd.

Llwyfannu/Digwyddiadau – treialu dulliau newydd o dynnu sylw ymwelwyr at gynnyrch bwyd e.e. digwyddiadau bwyd a chodi ymwybyddiaeth o fewn y sector lletygarwch. Yn yr elfen llwyfannu edrychir yn fwy manwl ar y cysylltiad rhwng bwyd a thwristiaeth.
Arian/cefnogaeth i drefnu a chynnal digwyddiadau bwyd ar raddfa fechan.
Costau llogi lleoliad, offer, cyhoeddusrwydd a marchnata.

I gael gwybod mwy

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y Prosiect Bwyd-Amaeth a Choedwigaeth Arloesol yn Sir Ddinbych neu Sir y Fflint neu os hoffech chi drafod syniad ar gyfer prosiect, cysylltwch â Robert Price drwy ffonio 01824705802 neu anfonwch e-bost at Lowri.williams@cadwynclwyd.co.uk


Eitemau Cysylltiedig