Ynni Cymunedol

Prosiect Ardal: Ynni Amgen
Sir: Sir y Fflint

Swyddog y Prosiect: Silas Jones
Echel: 4


Beth ydy’r prosiect?

Mae’r Prosiect Ynni Cymunedol ac Amaethyddol yn cynnwys nifer o fentrau sy’n anelu at wella cynaladwyedd economaidd ac amgylcheddol busnesau a chymunedau. Bydd elfennau’r prosiect yn peilota dulliau o wneud y defnydd gorau a asedau naturiol ac amgylcheddol yr ardal er budd yr economi a’r gymuned drwy;

  • droi cynnyrch gwastraff yn gynnyrch y gellir ei ddefnyddio a’i farchnata
  • lleihau costau ffermydd y chynyddu effeithiolrwydd trwy arferion amgylcheddol
  • galluogi cymunedau i archwilio dulliau newydd o ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy a lleihau’r defnydd o ynni

Bydd y prosiect yn cael ei roi ar waith fel a ganlyn: y cam dichonolrwydd; y cam peilota ac arbrofi mewn amgylcheddau rheoledig; cam profi cyn-marchnata.

Mae’r prosiect ar hyn o bryd wedi’i rannu’n ddau faes;

Rhaglen Arallgyfeirio Ynni-Amaeth Sir y Fflint

Ynni Adnewyddadwy Cymunedol

Rhaglen Arallgyfeirio Ynni-Amaeth Sir y Fflint

Nod y prosiect hwn yw annog ffermydd yn Sir y Fflint wledig i arallgyfeirio i gynhyrchu ynni adnewyddadwy er mwyn gwneud eu ffermydd yn fwy cynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol. Mae’r prosiect hefyd yn anelu at annog effeithlonrwydd ynni ar ffermydd ac mewn ffermdai.

Mae Cadwyn Clwyd yn dymuno hwyluso’r gwaith o sefydlu nifer o gynlluniau peilot fydd yn dangos y gorau o gynhyrchiant ynni adnewyddadwy a technegau arbed ynni ar ffermydd.

Mae’r prosiect yn arbennig eisiau hyrwyddo’r defnydd o’r adnoddau sydd ar gael yn Sir y Fflint wledig.

Mae Cadwyn Clwyd yn gofyn i ffermwyr ddod ymlaen os oes ganddynt ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y Peilot Arallgyfeirio Ynni neu os oes ganddynt syniad penodol ar gyfer prosiect peilot.

Rhai syniadau yw:

  • Cynhesu dŵr solar ar fferm laeth ar gyfer cynhesu dwr golchi
  • Tyrbin gwynt micro i gynhyrchu trydan ar fferm
  • Cynllun trydan-dŵr micro i gynhyrchu trydan ar fferm
  • Boeleri llosgi coed neu foeleri cyfunol a pheiriannau ynni
  • Cynhyrchiant Nwy bio neu Dreuliad Anerobig

I gael gwybod mwy

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r uchod cysylltwch â Silas Jones ar 01824 705802 neu anfonwch silas.jones@cadwynclwyd.co.uk


Eitemau Cysylltiedig