Cynllun asedau cymundeol - Sir y Fflint

Prosiect Ardal: Datblygiad Cymunedol
Sir: Sir y Fflint

Swyddog y Prosiect: Adam Bishop
Echel: 4


Nod y gweithgaredd hwn yw annog pobl i chwarae rhan yn eu cymunedau ac i wneud y mwyaf o asedau lleol megis lleoedd cyhoeddus a neuaddau pentref.

Mae nawdd ar gael tuag at roi cyngor i grwpiau cymunedol ar sut i wneud y defnydd gorau o adnoddau ac anogir hefyd brosiectau arloesol sy'n cynhyrchu refeniw e.e. menter cymdeithasol a hyfforddiant.

Mae nawdd a chefnogaeth ar gael tuag at weithgareddau megis;

  • llunio cynlluniau pensaerniol i ailwampio newuadd bentref
  • ysgrifennu cynllun busnes ar gyfer datblygu siop neu gaffi pentref
  • cynhyrchu taflenni a phaneli dehongli ar gyfer llwybr cymunedol
  • trefnu gweithdy i greu darn o waith celf cyhoeddus
  • nawdd a chefnogaeth ar gyfer hyfforddiant ar sut i redeg a chefnogi grwpiau a chlybiau chwaraeon yn effeithiol