AHNE Bryniau Clwyd

Prosiect Ardal: Twristiaeth Wledig
Sir: Sir Ddinbych

Swyddog y Prosiect: Carina Edwards
Echel: 3


Beth ydy’r Prosiect?

Bydd y prosiect yn annog datblygiad twristiaeth gynaliadwy yn AHNE Bryniau Clwyd (Sir Ddinbych Wledig) trwy roi Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy a Chynllun Gweithredu Pum Mlynedd AHNE Bryniau Clwyd ar waith.

Mae twristiaeth yn weithgaredd allweddol ym Mryniau Clwyd ac yn ffynhonnell o ffyniant sy’n dibynnu ar gynnal rhinweddau arbennig yr ardal ac sydd felly’n cefnogi ac yn cyfiawnhau eu cadwraeth.

Bydd y prosiect yn mynd i’r afael â’r amcanion canlynol:

  • Codi ymwybyddiaeth o ardal Bryniau Clwyd a’r cyfan sydd ganddi i’w chynnig i ymwelwyr, gan annog pobl i archwilio’r ardal ac aros yn hirach.
  • Datblygu a gwella profiad yr ymwelydd yn seiliedig ar ddifyrion awyr agored a gwerthfawrogiad o etifeddiaeth naturiol a diwylliannol yr ardal.
  • Annog a chefnogi busnesau cysylltiedig â thwristiaeth wrth iddynt fynd ati i ddatblygu a gwella cyfleusterau a gwasanaethau, rheolaeth amgylcheddol a’u perthynas â’r AHNE.
  • Gwella rheolaeth llif ymwelwyr i mewn i ac ym Mryniau Clwyd, gan gynnwys yr effaith ar yr amgylchedd a’r cymunedau yn yr AHNE a’r ardaloedd cyfagos.
  • Gwella dealltwriaeth o’r ymwelwyr sy’n dod i’r AHNE ac effaith twristiaeth ar yr ardal.

Hanes/Enghreifftiau o Brosiectau

Hyd yma noddwyd amrywiaeth eang o brosiectau gan gynnwys gwefan bentref ar gyfer Llanarmon-yn-Ial, cynyddu cludiant cyhoeddus i’r ardal yn ystod cyfnodau ymwelwyr brig, gwella llwybrau a llawer mwy.

Mae Park Gwledig Loggerheads yng nghalon yr AHNE ac yn atyniad ymwelwyr hynod o boblogaidd. Mae Cadwyn Clwyd wedi cyfrannu nawdd ariannol tuag ag gynllun rheoli ac ymchwil i sut i leddfu gorlawnder.

I gael gwybod mwy

Os oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect a allai fod yn gymwys i gael arian fel rhan o ddatblygiad AHNE Bryniau Clwyd fel cyrchfan dwristiaeth gynaliadwy, cysylltwch â Carina Edwards: carina.edwards@cadwynclwyd.co.uk


Eitemau Cysylltiedig