Sir Ddinbych

Twristiaeth Werdd Sir Ddinbych

Gan ganolbwyntio ar ddiwylliant, treftadaeth ar amgylchedd naturiol, nod y prosiect yw gwneud newidiadau positif i dwristiaeth er mwyn annog mwy o bobl i ymweld a’r sir, eu hannog i aros yn hirach a gwneud Sir Ddinbych yn ardal sydd yn denu ymwelwyr gydol y flwyddyn.

Prosiect Ardal: Twristiaeth Wledig Sir: Sir Ddinbych


Cadwraeth gwrychoedd a ffiniau traddodiadol Sir Ddinbych

Mae'r gweithgaredd hyn yn ymwneud a diogelu a chynnal gwrychoedd a ffiniau traddodiadol tiroedd fferm Sir y Fflint a Dinbych ac fe'i cynigir i ffermwyr ac aelodau eraill o'r gymuned amaethyddol i'w cynorthwyo i wneud gwaith cadwraeth ar eu tir.


Mae'r gweithgaredd hwn yn ymwneud a hyrwyddo a chefnogi bwyd lleol a'r bobl sy'n ei gynhyrchu a'i nod yw rhoi hwb i brosiectau a'i nod yw rhoi hwb i brosiectau arloesol nad ydynt yn dod dan ddarpariaethau cynlluniau grant eraill.


Nod y gweithgaredd hwn yw annog pobl i chwarae rhan yn eu cymunedau ac i wneud y mwyaf o asedau lleol megis lleoedd cyhoeddus a neuaddau pentref. Mae nawdd ar gael tuag at roi cyngor i grwpiau cymunedol ar sut i wneud y defnydd gorau o adnoddau

Prosiect Ardal: Datblygiad Cymunedol Sir: Sir Ddinbych


Diogelu a hyrwyddo asedau naturiol a threftadaeth Sir Ddinbych

Mae'r gweithgaredd hwn yn ymwneud a diogelu safleoedd naturiol a diwylliannol pwysig Sir Ddinbych gan eu hyrwyddo fel atyniad twristiaeth. Ei nod yw cynnwys pobl ifanc (rhwng 16 a 24 nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant) mewn gwaith gwirfoddol a phrosiectau cysgodi gweithwyr.


Effeithlonrwydd ynni a lleihau carbon - Sir Ddinbych

Trwy annog prosiectau lleol sy'n edrych ar sut i leihau ein dibynadwyedd ar danwydd ffosil, mae'r gweithgaredd cyffrous hwn yn ymwneud a galluogi cymunedau a grwpiau, gan gynnwys ffermwyr a busnesau, i gymryd camau positif yn erbyn newidiadau i'r hinsawdd a thlodi tanwydd.

Prosiect Ardal: Ynni Amgen Sir: Sir Ddinbych


Mae nawdd grant, cefnogaeth a chyngor a gwasanaeth mentora o'r radd flaenaf ar gael i helpu mentrau micro sydd eisioes yn bodoli ac sy;n dymuno lansio cynnyrch newydd neu ddatblygu proses newydd i droi eu breuddwydion yn realiti.

Prosiect Ardal: Menter & Arloesedd Sir: Sir Ddinbych


Mae'r gweithgaredd hwn yn ymwneud a helpu busnesau micro newydd a sefyledig - yn cynnwys y rhai hynny sy'n gweithio ym meysydd amaeth, bwyd a choedwigaeth - i wireddu eu syniadau ar gyfer lansio cynnyrch a gwasnaethau newydd cyffrous.


Bwrsariaeth Menter Sir Ddinbych

Mae'r prosiect hwn yn rhoi cyfle gwych i bobl Sir Ddinbych wledig sefydlu a datblygu eu busnesau eu hunain trwy gynnig grantiau o £2000 i bobl ifanc rhwng 16 a 30 ac i bobl ddi-waith dros 30.