Plât Enw am ddim

Prosiect Ardal: General News

Pam mae enw a rhif yn bwysig ? Yn ôl yr ymgyrch newydd, gallai olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.
 
Cynllun Datblygu Gwledig sy’n ariannu, a Helen Roberts, Swyddog Gwledig Cadwyn Clwyd, sy’n cydlynu’r Ymgyrch 999 Ble Rydych chi? yng nghefn gwlad Sir Ddinbych.
 
Pan fo’r gwasanaethau brys yn ceisio ymateb i alwadau 999 mae diffyg arwyddion sy’n dangos enw’r eiddo yn gwastraffu amser gwerthfawr. Dyna pam rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda thri o wasanaethau brys golau glas i godi ymwybyddiaeth o’r anawsterau sy’n codi bob dydd wrth geisio dod o hyd i gartrefi yng nghefn gwlad Sir Ddinbych.
 
Mae’r Paramedig Alun Roberts, o wasanaethau Ambiwlans Cymru Ymddiriedolaeth GIG yn ffyddiog y bydd yr ymgyrch yn gymorth i achub bywydau. Dywedodd : “Beth sy’n bwysig i ni yw gwybod pan fyddwn yn derbyn galwad 999 y byddwn yn gallu cyrraedd y safle cyn gynted ag y gallwn - gall hynny wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw.
 
“Mae pobl yn cymryd yn ganiataol bod pawb yn eu hadnabod ac yn gwybod ble maen nhw’n byw, ond ni fydd y criw sy’n ymateb i’r alwad bob amser yn bobl leol.
 
 “Gall Mordwyo drwy Loeren weithio’n dda mewn trefi a dinasoedd ond mae’n llai dibynadwy o lawer yn y wlad. ”
 
Mae Geraint Hughes, llefarydd Gwasanaethau Tan ac Achub Gogledd Cymru, yn tanlinellu’r anawsterau sy’n codi o ddau enw gwahanol -‘ Dyma ichi ddwy fferm a’r enwau’n o debyg i’w gilydd - Fferm Goch Uchaf a Fferm Goch Isaf. Rhaid i’r criw wneud penderfyniad anodd.
 
Yn rhan o’r ymgyrch, ceir plât enw am ddim i ffermwyr yng nghefn gwlad Sir Ddinbych. Dim ond cysylltu â Helen Roberts, Cadwyn Clwyd ar 01824 705802 a llenwi ffurflen fydd ei angen - gallwn ni wneud y gweddill. Dyma jobyn syml a all achub bywyd rhywun.


Lawrlwythiadau