Astudiaeth Dichonoldeb ar Ragoriaeth Seiclo yng Ngogledd Cymru

Prosiect Ardal: General News

Cafodd Cadwyn Clwyd, mewn partneriaeth â’r Grŵp Seiclo a Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, arian drwy Gynllun Datblygu Gwledig yr UE ar gyfer Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru i gomisiynu astudiaeth dichonoldeb i’r posibilrwydd o ddatblygu cynnyrch sengl ar gyfer seiclo yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a allai ddatblygu i fod yn ‘Ganolfan Ragoriaeth Seiclo ar gyfer Twristiaeth’ fel y’i diffinnir gan Croeso Cymru. Tra’n canolbwyntio ar ardaloedd gwledig Sir Ddinbych, cydnabyddir bod cyfleoedd i ymestyn y ffiniau a gweithio mewn partneriaeth â Sir y Fflint, Conwy a Gwynedd.
 
Ar ôl proses dendro gystadleuol, dyfarnwyd y contract i dîm bychan o arbenigwyr sy’n cynnwys:
·        Ian Parkin, Parkin Heritage and Tourism
·         Andrew Meredith, Meredith Consultants
·         Arran Cartwright, Cartwright Associates
 
Dangosodd yr astudiaeth bod gan Sir Ddinbych eisoes sylfaen ardderchog y gellid datblygu’r cynnyrch seiclo arno a bod angen i’r partneriaid ddod at ei gilydd mewn partneriaeth ffurfiol gyda Chylch Gorchwyl cytunedig er mwyn cyflwyno’r cais ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Seiclo ar gyfer Twristiaeth. 
 
Mae'r astudiaeth dichonoldeb ar gael i'w lawrlwytho.


Lawrlwythiadau