Digwyddiadau

Gall trefnu digwyddiad, waeth pa mor fach, fod yn dasg heriol sy’n mynnu llawer o amser. Nid oes unrhyw reolau haearnaidd ynghylch trefnu digwyddiad cymunedol, ond mae rhai pethau y dylid eu hystyried er mwyn rhoi cyfle i’ch digwyddiad fod yn llwyddiannus ac yn brofiad dymunol



Ennill Statws Parc Ewropeaidd

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd wedi ennill cydnabyddiaeth Ewropeaidd am hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy. Bryniau Clwyd, sy’n ymestyn dros 160 cilomedr sgwâr (61 metr sgwâr) ac sy’n codi i uchder o 554m (1817 troedfedd) yn Moel Famau, yw dim ond yr ail le yng Nghymru ar ôl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ennill y wobr ac yn un o ddim ond 10 ardal yn y DU i gyd. Gwnaeth Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint, sydd wedi’u lleoli ym Mharc Gwledig Loggerheads, gais am statws cynaliadwy gyda chymorth Carina Edwards, Swyddog Twristiaeth Cynaliadwy Cadwyn Clwyd.