Llwyddiant Prosiect Cae Ddol

Prosiect Ardal: General News

Mae’r gwaith sylweddol ar wella’r llyn wedi ei orffen ac yn edrych yn wych. Cafodd y llyn haen newydd ar ei wely i’w rwystro rhag sychu fel ei fod yn cael ei fwynhau am flynyddoedd. Mae wal newydd yn amgylchynnu’r llyn, ffens newydd, cerflun alarch o dderw, llwyfan archwiliio bywyd y llyn, a phaneli efo gwaith plant lleol i gyd wedi eu gosod bellach. Hefyd mae’r gwaith o ail-lunio’r ynys wedi ei orffen. Yn sicr, mae’n werth ymweld â’r parc rwan! 

Bu dathliad o’r gwaith gorffenedig a diwrnod o hwyl deuluol ar ddydd Sadwrn 24ain Medi 2011, bu peintio wynebau, hel trysor a thwrnameintiau rygbi ynghyd â llawer o weithgareddau eraill.

Delweddau

  • Before / Cyn cychwyn y gwaith
  • Platform / Platfform
  • Interpretation Panel / Panel Dehongli