Cadwyn Clwyd yn cefnogi Band Pres Sir y Fflint

Prosiect Ardal: General News

Mae prosiect Dathliadau Diwylliannol Cadwyn Clwyd wedi cynorthwyo i greu band pres iau newydd sbon. Bydd Band Pres Iau Sir y Fflint yn gyfle i aelodau iau o fandiau pres tref i chwarae ochr yn ochr a’i gilydd. Rhoddodd y band iau eu perfformiad cyntaf ar Ragfyr 11eg yn Eglwys y Santes Fair, yr Wyddgrug, fel rhan o gyngerdd arbennig gan fandiau ieuenctid hŷn y wlad.

Rhan o’r gefnogaeth gan Cadwyn Clwyd fydd arian i dalu am weithdai ac am wasanaethau’r arweinydd talentog Russell Gray i’w rhedeg.

Meddai Swyddog Prosiect Dathliadau Diwylliannol Cadwyn Clwyd, Andrew Redfern : “Mae hwn yn brosiect gwerth chweil fydd yn helpu rhai o gerddorion mwyaf talentog y sir i ddatblygu a ffurfio cysylltiadau cerddorol fydd o fantais amhrisiadwy iddyn nhw yn y dyfodol.

"Mae traddodiad o gerddoriaeth bandiau pres yn Sir y Fflint ac mae hyn yn rhoi cyfle i’r genhedlaeth newydd o gerddorion offerynnau pres i gael hyfforddiant o’r radd flaenaf a chyfle i berfformio’n fyw gyda’i gilydd yn rheolaidd."

Mae’r nifer o fandiau pres yng Ngogledd Cymru wedi lleihau yn y blynyddoedd diweddar wrth i gwmnïau a diwydiannau mawr fel y diwydiant glo a’r bandiau cysylltiedig â nhw roi’r gorau iddi. Wedi dweud hynny, mae chwe band yn dal i fynd yn Sir y Fflint – ym Mwcle, Treffynnon, Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy, Gwernaffield a’r Parlwr Du. "Da ni’n anelu at gael band traean y maint arferol i ddechrau - tua 25 ydy’r nifer fer arfer, ond yn y pen draw ‘da ni’n gobeithio cael band mwy" meddai Patrick Smith o Wasanaethau Cerddorol Sir y Fflint.

"Da ni’n trio chwarae cerddoriaeth boblogaidd. Mae cerddoriaeth y ffilm Pirates of the Caribbean yn boblogaidd iawn ac mae na drefniant arbennig o Is this the Way To Amarillo y mae’r plant yn hoff iawn ohono."

I gael mwy o wybodaeth am Fand Pres Iau Sir y Fflint, yn cynnwys gwybodaeth am sut i gymryd rhan, cysylltwch â.

Delweddau