Cynllun Busnes 2 2011 – 2013
September 10, 2009
Yn ddiweddar mynychodd Bwrdd Cyfarwyddwyr Cadwyn Clwyd, y Grŵp Ymgynghorol Technegol a staff eraill weithdy a gafodd ei gynnal gan oldbell3 i chwilio am syniadau newydd ar gyfer Cynllun Datblygu Cefn Gwlad 2. Cafodd y sesiwn, dan lywyddiaeth Huw Bryer , ei drefnu gan Cadwyn Clwyd i ysgogi syniadau newydd ar gyfer prosiectau i’w cyflwyno yn yr ail Gynllun Busnes fydd yn rhedeg o Fawrth 2011 tan Rhagfyr 2013.
Cafwyd syniadau ar gyfer amrywiaeth o brosiectau cyffrous a chyflwynwyd ffurflenni Mynegiant o Ddiddordeb i Gynghorau Sir Ddinbych a Chlwyd i’w hystyried, ac os yn gymwys byddant yn symud ymlaen i gam cais cyflawn Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Byddwn yn cystadlu yn erbyn deunaw Partneriaeth Cefn Gwlad arall ar draws Cymru am arian gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Cefn Gwlad (EAFRD) a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Bydd Cadwyn Clwyd yn cael gwybod beth oedd canlyniad y ceisiadau ddiwedd yr Haf 2010, felly cofiwch gadw’ch llygaid ar agor am brosiectau newydd posibl yn eich ardal chi.

