Ennill Statws Parc Ewropeaidd
January 01, 2010
Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd wedi ennill cydnabyddiaeth Ewropeaidd am hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy.
Bryniau Clwyd, sy’n ymestyn dros 160 cilomedr sgwâr (61 metr sgwâr) ac sy’n codi i uchder o 554m (1817 troedfedd) yn Moel Famau, yw dim ond yr ail le yng Nghymru ar ôl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ennill y wobr ac yn un o ddim ond 10 ardal yn y DU i gyd.
Gwnaeth Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint, sydd wedi’u lleoli ym Mharc Gwledig Loggerheads, gais am statws cynaliadwy gyda chymorth Carina Edwards, Swyddog Twristiaeth Cynaliadwy Cadwyn Clwyd.
“Mae’r achrediad yn ymwneud â hyrwyddo’r hyn sy’n unigryw am ardal ac yn ein cais mi wnaethon ni ganolbwyntio ar y ffaith bod gynnon ni dirlun arbennig yma” meddai Swyddog Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Vanessa Warrington.
“Mi wnaethon ni ymgynghori efo busnesau lleol ac mi gawson ni ymateb ardderchog ganddyn nhw.”
Gweithiodd Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych efo Grŵp Busnes Gwledig Clwyd a gafodd ei sefydlu yn dilyn argyfwng clwy’r traed a’r genau yn 2002.
“Mi wnaethon ni lunio strategaeth a chynllun gweithredu sydd wedi cael eu cymeradwyo a byddwn yn eu rhoi ar waith” meddai Vanessa.
“ Da ni’n bwriadu gosod ramp mewn darn serth o barc Loggerheads er mwyn i bobl gael cerdded mewn cylch o’i amgylch a da ni’n gobeithio y gallwn adnewyddu’r hen felin yno i gynhyrchu trydan.”
Yn ôl Carina Edwards, Swyddog Prosiect Bryniau Clwyd ar ran Cadwyn Clwyd, mae’r ardal yn awr yn cael ei gosod ochr yn ochr â rhai o ardaloedd twristiaeth gynaliadwy harddaf Ewrop.
“Mae’n dangos ardal mor arbennig sydd gennym ni yma yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych wledig a pha mor bwysig ydy’r gwaith sy’n cael ei wneud i’w chynnal ac i’w mwynhau’n gyfrifol.”


