Y Broses Ymgeisio
Rhaid i bob prosiect fynd drwy broses ymgeisio. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu gan Gadwyn Clwyd, sy’n Gwmni Cyfyngedig drwy Warant. O fewn Cadwyn Clwyd mae Bwrdd Cyfarwyddwyr sef y corff sy’n gwneud penderfyniadau, Grŵp Cynghori Technegol y Bartneriaeth sy’n darparu cyngor a’r staff, sy’n rhoi prosiectau a rhaglenni ar waith o ddydd i ddydd. Mae gwariant ar brosiectau yn cael ei gymeradwyo fel hyn:
Gwerth prosiect hyd at £2,500 – Rheolwr i asesu’r cais.
Gwerth prosiect rhwng £2,500 a £5,000 – Rheolwr i asesu’r cais gyda Chadwyn Clwyd, gydag arweiniad a sylwadau oddi wrth Grŵp Cynghori Technegol y Bartneriaeth.
Gwerth prosiect o £5,000 a mwy – Rheolwr a’r Grŵp Cynghori i gynghori Bwrdd y Cyfarwyddwyr fel sy’n briodol. Bwrdd y Cyfarwyddwyr i asesu’r cais.
Rhaid cyflwyno prosiectau ar ffurflenni cais Cadwyn Clwyd a rhaid llenwi’r ffurflenni mewn ymgynghoriad ag un o Swyddogion Prosiect Cadwyn Clwyd.
Cais Cofrestru
Er mwyn lawrlwytho ffurflenni cais, llenwch y ffurflen isod.

