Swyddi
Swyddog Amaeth
Dros dro tan 31ain Rhagfyr 2013
Pwynt Cyflog 26-31 (£22,221 - £26,276 + 10% yn lle cyfraniad pensiwn)
Gofynnir am unigolyn dynamig gyda’r gallu i weithio’n unigol ac fel rhan o dîm i gynorthwyo gweithredu a datblygu prosiectau Cadwyn Clwyd a ariennir yn rhannol drwy Gynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n uniongyrchol gyda busnesau yn ardaloedd gwledig Sir y Fflint i brofi dulliau newydd o ychwanegu gwerth at ddefnyddiau crai yn y sectorau amaeth, bwyd-amaeth a choedwigaeth, canfod ffyrdd newydd o gael mynediad i farchnadoedd er mwyn cynyddu proffidioldeb a datblygu prosesau newydd yn y sectorau amaeth, bwyd-amaeth a choedwigaeth yn ardaloedd gwledig Sir y Fflint.
Gofynnir am unigolyn brwdfrydig gyda gwybodaeth am ddatblygu gwledig. Mae profiad o’r sector amaethyddol hefyd yn hanfodol yn ogystal ag o leiaf dair blynedd o brofiad mewn maes perthnasol neu gymhwyster HND neu lefel gyfatebol. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol.
DYDDIAD CAU AR GYFER CEISIADAU: hanner dydd Dydd Gwener 10fed Chwefror 2012.
Dyddiad arfaethedig ar gyfer cynnal cyfweliadau: Dydd Llun, 27ain Chwefror 2012.
Am swydd ddisgrifiad a ffurflen gais cysylltwch ag Eirys Roberts ar 01824 705 802 neu e-bostio eirys.roberts@cadwynclwyd.co.uk. Am drafodaeth anffurfiol ynghylch y swydd, gofynnwch am gael siarad ag Allan Forrest- Rheolwr y Cwmni.

