Y Cynllun Datblygu Gwledig

Mae Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 - 2013 yn cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Diben y Cynllun Datblygu Gwledig yw annog a chyflwyno gweithgareddau sy’n cynnal cefn gwlad a chymunedau gwledig, yn annog rheoli amaethyddiaeth a’r amgylchedd mewn modd cynaliadwy ac yn cefnogi arallgyfeirio yn yr economi gwledig.

Mae gan y Cynllun Datblygu Gwledig bedwar prif amcan, a elwir yn Echelau, sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau’r Comisiwn Ewropeaidd o ran datblygu gwledig. Pwrpas yr Echelau yw:

Mae Echelau 1 a 2 yn cael eu rhoi ar waith yn bennaf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, gyda phartneriaid, ar draws Cymru.  Caiff Echel 3 ac Echel 4 eu rhoi ar waith yn lleol. 

Yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint, mae Echel 3 yn cael ei rheoli gan y Cynghorau Sir ar ran Partneriaeth Wledig Leol. Mae Cadwyn Clwyd wedi cyflwyno cais llwyddiannus i roi nifer o brosiectau Echel 3 ar waith yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Nod Echel 3 yw arallgyfeirio’r economi gwledig drwy ddarparu:

cymorth i deuluoedd ffermio i arallgyfeirio i weithgareddau ar wahân i amaethyddiaeth;

cymorth i greu a datblygu microfentrau; a

chymorth i annog gweithgareddau twristiaeth.

Mae hefyd yn anelu at wella ansawdd bywyd mewn cymunedau gwledig drwy:

gefnogi gwasanaethau sylfaenol i’r economi a’r boblogaeth wledig;

annog adnewyddu pentrefi;

cadw ac uwchraddio’r dreftadaeth wledig; a darparu hyfforddiant i’r rhai sy’n weithredol yn yr economi gwledig.

Mae Cadwyn Clwyd yn rheoli a gweithredu gweithgarwch Echel 4 yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Mae Echel 4 yn gweithredu ar batrwm LEADER drwy weithio gyda chymunedau i annog creu ffyrdd arloesol o gynnal datblygu gwledig yng Nghymru yn y tymor hwy. Mae cymorth ar gael hefyd i gyllido prosiectau cydweithredu rhwng Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, a hefyd rhwng Cymru ac Aelod Wladwriaethau eraill o’r Undeb Ewropeaidd.

Gellir gwario ariannu’r CDG mewn wardiau cymwys yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint.  Ceir map a rhestr o’r wardiau cymwys isod;

Lawrlwythiadau