Amdanom ni
Asiantaeth Datblygu Gwledig yw Cadwyn Clwyd Cyfyngedig. Mae’n darparu arweiniad a chymorth i ddatblygu ac arallgyfeirio’r economi gwledig yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych drwy gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd (yr UE), cronfeydd domestig y Deyrnas Unedig (y DU) a chronfeydd sector preifat. Mae’r Cwmni’n canolbwyntio ar weithredu sy’n ysgogi cyfranogi ar lawr gwlad, gweithio drwy bartneriaeth ac arloesi, i gefnogi prosiectau ar gyfer cymunedau gwledig a grwpiau sector. Mae’n gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau lleol i helpu i ddatblygu prosiectau sydd o fudd i economi lleol yr ardal a’u rhoi ar waith.
Mae gan y Cwmni a’i staff gyfoeth o brofiad o roi rhaglenni datblygu gwledig ar waith yn y sectorau a ganlyn: Arallgyfeirio Amaethyddiaeth, Bwyd-amaeth a Bwydydd Arbenigol, Cynlluniau Amgylcheddol, Twristiaeth Ddiwylliannol, Twristiaeth Werdd, Prosiectau Treftadaeth a Chadwraeth, Datblygu Mentrau Cymdeithasol, Datblygu Cymunedol, Meithrin Gallu Cymunedau, Mynediad at Wasanaethau a Phrosiectau ar y Cyd ag ardaloedd gwledig eraill yn Ewrop.
Ar hyn o bryd mae’r Cwmni’n darparu elfennau o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru, sy’n cael ei gyllido gan yr UE a Llywodraeth y Cynulliad, yn ardaloedd gwledig Sir y Fflint a Sir Ddinbych, ac mae’n cefnogi gweithgareddau a phrosiectau yn y meysydd canlynol:
-
Menter Bwrsariaeth Pobl Ifanc
-
Ynni Amgen
-
Treftadaeth Cymunedol
-
Gwyliau a Digwyddiadau
-
Bwyd-amaeth a Choedwigaeth
-
Gwasanaethau Gwledig
-
Twristiaeth Wledig
-
Twristiaeth Gynaliadwy
Cefndir y Cwmni
Cwmni Cyfyngedig drwy Warant (di-elw) yw Cadwyn Clwyd ac fe’i corfforwyd yn 2001 i roi rhaglenni datblygu gwledig ar waith yn ardaloedd gwledig Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Mae gan y Cwmni 6 Chyfarwyddwr, sy’n cynrychioli gwahanol sectorau economaidd-gymdeithasol sy’n berthnasol i’r ardal leol, ynghyd â Grŵp Cynghori Technegol y Bartneriaeth, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus a’r sector cymdeithasol ac sy’n darparu cyngor i’r Cwmni.
Mae gan y Cwmni amrywiaeth eang o raglenni y mae wedi’u rheoli ers iddo gael ei sefydlu. Mae’r rhain yn cynnwys: LEADER+, Erthygl 33, Leonardo Da Vinci o dan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), INTERREG IIIB, Gweithredu dros Gymunedau Gwledig. Mae’r Cwmni hefyd yn ysgogi arian o amrywiaeth o ffynonellau allanol megis Awdurdodau Lleol, Cronfa Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau, y Gronfa Treth Tirlenwi, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfeydd Bwyd-amaeth Llywodraeth y Cynulliad (a’r WDA gynt), Cronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth y Cynulliad, Cronfeydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y Loteri – Arian i Bawb, Ymddiriedolaeth Fferm Wynt Tir Mostyn a Foel Goch, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Gweithredu Busnesau Gwledig / Menter Trefi a Phentrefi Bach (STVEI). Hefyd, mae gan y Cwmni lawer o brofiad o ddarparu rhaglenni allanol o dan gontract – rhaglenni fel Cyswllt Ffermio, Blas ar Gymru, Llysgenhadon Diwylliant Bwyd a Chynghorwyr Busnesau Bwyd.

