Trosolwg
Mae adolygiad o'r ardaloedd cadwraethol o fewn Sir y Fflint wedi cychwyn - dyma eich cyfle chi i ddweud eich dweud a chymryd rhan!
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynllunio ffyrdd gwell yn y dyfodol o ofalu am nodweddion hanesyddol a phensaernïol unigryw Ardaloedd Cadwraethol drwy'r sir gyfan, ac mae'n chwilio am gymorth cymunedau lleol.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd cymunedau Caerwys, Cilcain, Glan-yr-Afon, Gwaunysgor, Treffynnon, Nannerch a Chwitffordd yn cael eu gwahodd i fynychu gweithdai ar faterion sy'n effeithio ar eu hardaloedd cadwraethol, a dysgu rhagor am bwyntio â chalch ac atgyweirio ffenestri hanesyddol.
Mae hwn yn gynllun peilot sy'n canolbwyntio yn y lle cyntaf ar ardaloedd cadwraethol yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, lle caiff pobl leol y cyfle i ddweud beth sy'n bwysig yn eu cymunedau, sut mae hyn yn effeithio ar yr Ardal Gadwraethol, a helpu i greu Cynllun Rheoli i'w gwarchod.
Mae'r cynllun yn ffurfio rhan o'r prosiect Sgiliau Adeiladu Traddodiadol arloesol a llwyddiannus iawn, sy'n darparu hyfforddiant i bobl leol a busnesau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ar atgyweirio adeiladau hanesyddol gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau traddodiadol. Mae'r prosiect yn cael ei redeg gan yr asiantaeth datblygu gwledig Cadwyn Clwyd, mewn partneriaeth â Northern Marches Cymru, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Diwrnodau Cymunedol Codi Ymwybyddiaeth o Sgiliau Adeiladu Traddodiadol
Atgyweirio Ffenestri Traddodiadol
12.00pm - 5.00pm Dydd Mawrth 17 Mehefin 2008 yn Neuadd Bentref Cilcain
Defnyddio Calch Adeiladu Traddodiadol
12.00pm - 5.00pm Dydd Gwener 20 Mehefin 2008 yn Neuadd Bentref Nannerch
Cliciwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth a ffurflen archebu.
Gweithdai Ymgynghori Cymunedol
-
Llanasa - Dydd Gwener, 16 Mai 2008 am 6.30pmyn Neuadd Bentref Llanasa
-
Glan-yr-Afon - Dydd Sadwrn, 17 Mai 2008 am 10amyn Neuadd Bentref Llanasa
-
Gwaunysgor-Dydd Gwener, 23 Mai 2008 am 6.30pmyn Neuadd Bentref Gwaunysgor
-
Chwitffordd - Dydd Sadwrn, 24 Mai 2008 am 10amyn Ysgol Chwitffordd
-
Nannerch - Dydd Iau, 5 Mehefin 2008 am 6.30pm yn Neuadd Bentref Nannerch
-
Cilcain - Dydd Gwener, 6 Mehefin 2008 am 6.30pm yn Neuadd Bentref Cilcain
-
Caerwys - Dydd Iau, 12 Mehefin 2008 am 6.30pm yn Neuadd Goffa Caerwys
-
Treffynnon - Dydd Iau, 19 Mehefin 2008 am 6.30pm yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon
Mae dogfennau yn ymwneud â'r Rhaglen Rheoli Ardaloedd Cadwraethol sydd wrthi'n cael ei chynnal yn yr aneddiadau canlynol ar gael i'w llwytho i lawr isod (mewn fformat PDF). Mae'r dogfennau ar y ffurfiau canlynol:
1. Copi o'r cyflwyniad a oedd ar gael yn y Gweithdy Cymunedol;
2. Ffurflen adborth ar gyfer eich sylwadau;
3. Map o'r pentref, y gallwch chi wneud pwyntiau penodol arnyn nhw.
Llanasa Glan-yr-Afon
Cyflwyniad Llanasa Cyflwyniad Glan-yr-Afon
Ffurflen Adborth Llanasa Ffurflen Adborth Glan-yr-Afon
Map Llanasa Map Glan-yr-Afon
Gwaunysgor Chwitffordd
Cyflwyniad Gwaunysgor Cyflwyniad Chwitffordd
Ffurflen Adborth Gwaunysgor Ffurflen Adborth Chwitffordd
Map Gwaunysgor Map Chwitffordd
Nannerch Cilcain
Cyflwyniad Nannerch Cyflwyniad Cilcain
Ffurflen Adborth Nannerch Ffurflen Adborth Cilcain
Map Nannerch Map Cilcain
Caerwys Treffynnon
Cyflwyniad Caerwys Cyflwyniad Treffynnon
Ffurflen Adborth Caerwys Ffurflen Adborth Treffynnon
Map Caerwys Map Treffynnon
Dylid dychwelyd y ffurflen adborth a'r map o fewn pythefnos i'r digwyddiad er mwyn sicrhau bod eich sylwadau yn ffurfio rhan o'r broses ddrafftio ar gyfer y Cynllun Rheoli Ardaloedd Cadwraethol. Dylid dychwelyd y rhain yn uniongyrchol i'r Ymgynghorwyr sy'n gweithio â Chyngor Sir y Fflint, fel y nodir ar y ffurflen adborth.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ymatebion, a diolch i chi am gymryd rhan.
Cysylltwch â Nathan Blanchard, Cyfarwyddwr Mentrau Treftadaeth ar 01492 583443 am fanylion pellach.
|