Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll M M I G S S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Cysylltwch
Noddwyr
Call Us Cysylltwch a ni Write to us
ignore - spacer
Coetir Clwyd
Nôd Coetir Clwyd yw annog mentrau presennol a newydd i wneud y defnydd gorau o adnoddau coetir, gan ymelwa ar yr adnoddau mewn modd sympathetig er budd economaidd. Ar hyn o bryd rydym wrthi'n cynhyrchu cyfeirlyfr o'r holl fusnesau yn y diwydiant coed a phren, fydd yn cael ei ddefnyddio fel llyfryn gwybodaeth gan ddefnyddwyr, a bydd yn cael ei ddosbarthu at ddibenion addysgol hefyd. Mae prosiectau eraill yn cynnwys ailgyflwyno hen fathau o goed ffrwythau ac ailsefydlu perllanau. Gall Coetir Clwyd gynorthwyo gyda marchnata cynhyrchion coetir neu bren newydd.
 
Profiad Ffermydd Clwyd
Bwriad Profiad Ffermydd Clwyd yw creu cysyniad hollol newydd ac arloesol mewn gwyliau fferm. Ein nod yw creu rhwydwaith o lety ffermydd a gweithgareddau ar y fferm fel marchogaeth, llwybrau cerdded yn y coed, fferm agored, beicio/gyrru cerbydau oddi ar y ffordd ac ati. Bydd y rhwydwaith yn cael ei farchnata ar y cyd, gyda'r nod o ddarparu golwg newydd ar y diwydiant amaethyddiaeth. Rydym yn cynnal cynllun grant bychan i gynorthwyo ffermydd sy'n sefydlu mentrau newydd yn y sector twristiaeth amaeth. Bydd y rhwydwaith yn cael ei ddefnyddio fel cyfleuster addysgol hefyd i hybu gwell dealltwriaeth o ddulliau cynhyrchu bwyd a'r angen am reolaeth amaethyddol sensitif. Ein nod yw cynorthwyo busnesau fferm wrth arallgyfeirio a chreu atyniadau twristiaeth er budd cymunedau gwledig a thwf economaidd.
 
ignore - spacer
Cadwyn Clwyd, Llys Clwyd, Parc Busnes Lôn Parcwr, Rhuthun, Sir Ddinbych. LL15 1NJ Ffôn: 01824 705802 Facs: 01824 709853
Cartref arrow Prosiectau arrow Leader + arrow Amaethyddiaeth