|
Gweithredu dros Gymunedau Gwledig
Rhaglen a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw Gweithredu dros Gymunedau Gwledig. Cafodd ei lansio ar Dachwedd 26ain 2002, ac mae'n gweithredu ledled Cymru Wledig drwyddi draw, gan ofalu am y naw awdurdod lleol mwyaf gwledig yn y bôn (cam 1) ynghyd â wardiau gwledig Sir y Fflint, Wrecsam a Bro Morgannwg.
Datblygwyd y rhaglen i fynd i'r afael ag un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef:
"Datblygu cymunedau y mae pobl yn dymuno byw a gweithio ynddynt ac ymweld â hwy. Mannau hefyd sy'n cynnig cyfle buddion economaidd, amgylchedd dymunol a diogel a rhwydweithiau cymdeithasol a chymunedol gweithredol".
Mae dwy elfen i'r rhaglen a luniwyd yn wreiddiol:
- Elfen 1, sef cynllun grant i gefnogi Partneriaethau GGG strategol mewn ardaloedd, ledled Cymru wledig, er mwyn mynd i'r afael ag anghenion meithrin galluedd cymunedau a grymuso cymunedau lleol.
- Cynllun grant yw Elfen 2 er mwyn cefnogi prosiectau unigol a gyflwynir gan Bartneriaethau Gweithredu dros Gymunedau Gwledig - oherwydd y pwysau ar adnoddau, ni chafwyd cyllid ar gyfer yr elfen hon hyd yma.
Prif grwpiau targed y rhaglen yw:
- Micro-fusnesau a busnesau bach
- Twristiaeth
- Datblygu busnesau ffermio
- Mynediad at wasanaethau
- Mynediad at ffynonellau cyllid
- Pobl heb ddigon o waith
- Cymunedau Cymraeg eu hiaith
- Merched
- Pobl ifanc
- Yr henoed
- Amgylchedd cefn gwlad
Cyllid
Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi darparu pob ceiniog o'r cyllid; cafodd £1.8 miliwn y flwyddyn ei ddyrannu i'r rhaglen ar gyfer y flwyddyn ariannol o 2003/04 hyd at 2005/06. Cytunwyd y bydd yr un maint o gyllid yn cael ei ddarparu yn 2006/07. Caiff y cyllid am y blynyddoedd i ddod ei ystyried yn ystod Adolygiad Gwario'r flwyddyn hon.
Manteision Proses Cais GGG:
- Syml
- Sydyn
- Hyblyg
- Cefnogol
- Gofalu am Gefn Gwlad Sir Ddinbych
|
|
|
|
|
Cadwyn Clwyd, Llys Clwyd, Parc Busnes Lôn Parcwr, Rhuthun, Sir Ddinbych. LL15 1NJ Ffôn: 01824 705802 Facs: 01824 709853
|
|
|