Prosiect Adfywio Tir Comin Mynydd Helygain
Nod Prosiect Adfywio Tir Comin Mynydd Helygain yw hybu'r mynydd/tir comin er mwyn iddo gael ei reoli mewn dull cydlynedig a gofalus. Wedyn bydd hynny'n creu tirwedd wirioneddol fyw i bawb yn y gymuned ac i bobl sy'n dod i weld y mynydd hefyd. Y prosiect hwn hefyd yw uchafbwynt partneriaeth o unigolion a sefydliadau a fu'n gweithio ar ddatblygu ffordd ymlaen, arloesol a chyfannol, ar gyfer yr ardal hon. Cadwyn Clwyd, Cronfa Cynaladwyedd yr Ardoll Agregau ar gyfer Cymru (CCAAC) Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Cefn Gwlad Cymru sy'n cyllido'r prosiect hwn ar hyn o bryd.
Yn dilyn ymgynghoriad cymunedol a gynhaliwyd ynghylch Mynydd Helygain yn 2002, penderfynwyd y byddai'r prosiect yn cael ei gynnal mewn tair rhan:
- 1.) Dehongli Tir Comin Mynydd Helygain
- 2.) Cyflogi Rhodiwr Cefn Gwlad i reoli'r dirwedd
- 3.) Adeiladu gridiau gwartheg.
Rhoddwyd cychwyn eisoes ar elfen ddehongli'r prosiect yn sgil llunio taflen o'r enw "Hanes Mynydd Helygain", DVD am y gymuned leol a hanes chwarela ac amaethyddiaeth ar Fynydd Helygain. Mae Pecyn Addysg sy'n rhoi manylion hanes mwyngloddio yn yr ardal, y dirwedd chwarela a'r bywyd gwyllt ar y tir comin, wedi cael ei ddosbarthu'n barod i ysgolion cynradd ac uwchradd yn yr ardal.
Nod cyflogi Rhodiwr Cefn Gwlad yw hybu'r fioamrywiaeth ar y mynydd trwy reoli cynefinoedd a rhywogaethau, yn enwedig cadwraeth y Madfallod Dŵr Cribog, a chynnal a chadw'r SoDdGA (Safleoedd o Diddordeb Gwyddonol Arbennig) a'r ardaloedd AAC (Ardal Arbennig Cadwraeth). Bydd y warden yn rheoli gweithgareddau anghyfreithlon fel tipio slei bach a cherbydau oddi-ar-y-ffordd yn ogystal â threfnu digwyddiadau cymunedol fel teithiau cerdded tywysedig a gweithgareddau â phlant ysgol lleol.
Bydd y gridiau gwartheg a adeiladwyd o amgylch y ffiniau yn sicrhau na fydd gorbori na rhy ychydig o bori'n digwydd ar y mynydd. Bydd y gridiau gwartheg yn gweithredu fel ‘mynedfeydd' at y tir comin, a gobeithio y gwnânt i chi deimlo eich bod wedi cyrraedd tirwedd arbennig.
I weld y daflen ddehongli a luniwyd ar gyfer yr ardal, cliciwch ar y llun isod.
|