Crynodeb o'r Prosiect
Mae'r prosiect "Sgiliau Adeiladu Traddodiadol" yn darparu digwyddiadau hyfforddi mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau sgiliau adeiladu ar draws Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae'r cyrsiau undydd hyn yn bwriadu gwarchod treftadaeth adeiledig Gogledd Ddwyrain Cymru drwy gynnig cyfle i unrhyw un sy'n gweithio ar hen adeiladau neu sydd â diddordeb yn y maes i gynyddu eu hyder wrth weithio â deunyddiau traddodiadol a thechnegau cadwraethol.
Gyda miloedd o adeiladau ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru wedi eu gwarchod gan statws ‘rhestredig' a nifer o ardaloedd cadwraethol yn y dalgylch, mae'r cyrsiau yn rhan o strategaeth i sicrhau nad yw adeiladau hanesyddol y rhanbarth yn cael eu colli a'u difrodi drwy ddefnyddio technegau adeiladu anghywir.
Roedd y problemau y daethpwyd ar eu traws yn y rhanbarth yn cynnwys diffyg gwybodaeth am gynnyrch a thechnegau calch traddodiadol, y defnydd helaeth o rendro sment, trin gwaith saer a gwydro hanesyddol yn ddigydymdeimlad, diffyg gofal wrth ymdrin â gwaith brics a gwaith maen hanesyddol, gwybodaeth gyfyngedig o achosion lleithder mewn adeiladau, ac awydd cyffredinol i amnewid yn hytrach nag atgyweirio.
Hyd yn hyn, mae'r prosiect sgiliau adeiladu traddodiadol wedi cynnal wyth ar hugain o gyrsiau, gydag ymhell dros ddau gant o unigolion yn derbyn hyfforddiant ymarferol mewn ailbwyntio gyda morter calch, plastro â chalch, defnyddio gorffeniadau traddodiadol, gwneud diagnosis o leithder, gwaith saer allanol, gwarchod meini ac atgyweirio gwaith brics. Roedd adeiladwyr, penseiri, syrfewyr, plastrwyr, peintwyr, dylunwyr cartrefi, swyddogion cadwraethol, perchnogion cartrefi a myfyrwyr ymysg y rhai a fu'n bresennol.
Hyd yma, mae'r prosiect wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda niferoedd da yn mynychu'r cyrsiau, adborth rhagorol a galw am gyrsiau pellach. Drwy'r dyddiau hyfforddi a'r gweithgareddau hyrwyddo, mae'r prosiect wedi codi ymwybyddiaeth o'r angen am dechnegau atgyweirio priodol ar gyfer adeiladau hanesyddol, ac wedi cyfrannu at gynnydd yn y ddealltwriaeth o adnoddau diwylliannol a threftadaeth yr ardal. At hynny, mae'r prosiect yn gweithredu fel platfform i ddysgu pellach a datblygu sgiliau.
Partneriaid
Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan Cadwyn Clwyd a Northern Marches Cymru fel rhan o LEADER+, rhaglen wedi'i chyllido gan Senedd Ewrop sy'n hyrwyddo datblygu ardaloedd gwledig drwy annog strategaethau arloesol tymor hir ar gyfer datblygiad cynaliadwy.
Mae cyllid cyfatebol hefyd wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a gan Gyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam drwy gynlluniau Menter Treftadaeth Treflun.
Amcanion
-
Codi ymwybyddiaeth o'r angen am dechnegau atgyweirio priodol ar gyfer adeiladau hanesyddol
-
Cyfrannu at gynnydd yn y ddealltwriaeth o adnoddau diwylliannol a threftadaeth yr ardal
-
Creu fframwaith prawf ar gyfer cyrsiau sy'n berthnasol i atgyweirio ac adfer adeiladau hanesyddol
-
Cefnogi'r gwaith o ddatblygu sylfaen sgiliau ar gyfer crefftau atgyweirio adeiladau hanesyddol yn yr ardal LEADER +
- Annog busnesau lleol i gael gwell ymwybyddiaeth o sgiliau adeiladu traddodiadol, a fydd yn rhoi rhagor o hyder iddyn nhw wrth dendro am waith cadwraethol, a thrwy hynny adfywio'r economi leol
Buddion Tymor Hir
-
Cyfle i weld twf lleol o fewn y gilfach hon yn y diwydiant adeiladu
-
Uwchraddio sgiliau yn y gweithlu lleol
-
Hyrwyddo datblygu eiddo a defnyddio stoc adeiladu presennol
- Mae treftadaeth adeiladau wedi'u cadw'n dda yn darparu amgylchedd deniadol a nodedig sy'n cynorthwyo twristiaeth
Buddion Amgylcheddol
-
Mae deunyddiau adeiladu traddodiadol yn naturiol yn fwy caredig i'r amgylchedd ac yn fwy cynaliadwy o'u cymharu â nifer o ddeunyddiau adeiladu modern
- Mae cynnwys y cwrs hefyd yn edrych ar gynnyrch ecolegol arloesol sydd ar y farchnad heddiw
Digwyddiadau sydd ar ddod
Am ragor o wybodaeth ac am restr lawn o gyrsiau, cliciwch ar y ddolen hon i fynd i wefan y Sgiliau Adeiladu Traddodiadol.
Gweler hefyd y Cynlluniau Rheoli Ardaloedd Cadwraethol (top) am fanylion rhagor o gyrsiau byr
Pamffledi Technegol
Cyswllt
Adam Bishop, Swddog Treftadaeth
Cadwyn Clwyd (Asiantaeth Datblygu Gwledig)
Llys Clwyd, Parc Busnes Lon Parcwr, Rhuthun, Sir Ddinbych, Cymru, DU. LL15 1NJ
Ffon: +44 (0)1824 705802
Ffacs: +44 (0)1824 709853
Gwefan: http://www.traditionalbuildingskills.co.uk/
|