|
|
Gweithredu dros Gymunedau Gwledig Sir Ddinbych |
Allwch chi helpu i Ailfywiogi eich cymuned?
Mae'r rhaglen Gweithredu dros Gymunedau Gwledig a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a gyllidir yn rhannol gan Amcan 1, yn rhoi i bobl ledled cefn gwlad Sir Ddinbych well mynediad at gyfleoedd cefnogaeth a chyllid ar gyfer prosiectau adfywio lleol.
Mae arnom eisiau i CHI - pobl a grwpiau lleol gynnig syniadau ar gyfer prosiectau a fydd yn helpu'r anghenion penodol sydd gan eich ardal.
Pa fath o brosiectau fydd yn cael eu cefnogi?
- Mentrau Cymunedol
- Twristiaeth
- Datblygu Cymunedol
- Meithrin Galluedd
- Diwylliant Iaith
- Treftadaeth
- Mynediad at Wasanaethau
- Hyfforddiant
- Cyfleoedd Manwerthu
- Adloniant/Hamdden
- Cludiant
- Yr Amgylchedd
-
Cadwraeth
A yw'ch Syniad yn Bodloni'r Meini Prawf Hyn?
- Mae'n diwallu anghenion cymunedau lleol
- Mae'n gynaliadwy
- Mae'n ymwneud â, ac yn cael ei gefnogi gan gymunedau lleol
- Mae'n cynnig manteision ychwanegol i'r ardal
- Mae'n mynd i'r afael â, ac yn diwallu anghenion y bobl hynny sy'n gysylltiedig ag ef
Cyn-brosiectau a gefnogwyd gan GGG Sir Ddinbych:
- Clwb Bowlio Llandrillo
- Prosiect clodfori merched
- Ymgynghoriadau â chymunedau
- Gwefan Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych
- Antur Cae Cymro - Cegin Deithiol
- Plwyf Clocaenog - ei bobl gynt a 'nawr
- Cerfluniau Mynedfa Llangollen
- Goleuadau Nadolig Llanbedr Dyffryn Clwyd
- Cam 1 Prosiect Ffilmiau Crawford
- Dehongli - Llantysilio
- Gwelliannau i Amgylchedd Cwm Waen a Thremeirchion
Cliciwch ar y ddolen er mwyn cael Taflen Rhaglen Gweithredu dros Gymunedau Gwledig Sir Ddinbych
|
|
|
|
|
Cadwyn Clwyd, Llys Clwyd, Parc Busnes Lôn Parcwr, Rhuthun, Sir Ddinbych. LL15 1NJ Ffôn: 01824 705802 Facs: 01824 709853
|
|
|