|
|
Olion Traed Diwydiannol a Threftadaeth Byw |
Bwriad y prosiect yma yw datblygu prosiect cynnyrch
twristiaeth newydd ac arloesol sydd wedi ei seilio ar waith ymchwil ar
farchnadoedd potensial, a fydd yn dehongli ac yn gwella ar orffennol
diwydiannol Dyffryn Clwyd AONB a'r ardal amgylchynol Cadwyn Clwyd LAG.
Mae gan yr ardal gyfoeth o ddiwydiannau hanesyddol a chyfoes sy'n cynnig
potensial unigryw i dwristiaeth, a fydd yn ei dro yn gwella'r economi lleol.
Bydd y prosiect yn datblygu ardal graidd, yna casgliad o atyniadau bychain, a
fydd yn gwasgaru budd economaidd ehangach i ardal amgylchynol LAG.
Bydd y datblygiad cyntaf yn edrych ar y potensial i ddatblygu cynnyrch
twristiaeth a fydd yn cwmpasu y thema 'Diwydiant Drwy'r Oesoedd' ar hyd
arfordir gogleddol Cadwyn Clwyd.
Bydd yr ail yn canolbwyntio ar
rwydwaith o gynhyrchion unigryw i dwristiaeth yng ngweddill ardal yr LAG gan
dargedu yn bennaf pentrefi diwydiannol y gorffennol, mewn ardaloedd megis
Tafarn y Celyn (Loggerheads) a Dyffryn Alyn, Mynydd Helgain - Gweithfeydd Plwm,
Dyffryn Dyfrdwy, Dyffryn Clwyd ac Argraffdy Gwas Gee.
Mae gan yr
ardaloedd a grybwyllwyd gyfoeth o weddillion diwydiannol sydd angen eu
gwarchod, eu dehongli a'u datblygu gan sicrhau cynnyrch o ansawdd a fydd yn
cael ei rwydweithio'n effeithiol nad ydyw wedi eu datblygu'n flaenorol ar gyfer
budd economaidd.
|
|
|
Ffocws y prosiect yma fydd datblygiad Rhwydweithiau
Twristiaeth Werdd sydd wedi'u lleoli o amgylch Tafarn y Celyn (Loggerheads) a
Nant Alyn (sydd ar hyn o bryd yn cael ei asesu i ganfod ei addasrwydd i gael
statws SAC), Arfordir Afon Dyfrdwy, gydag amrywiaeth o atyniadau trwy ardal
Cadwyn Clwyd yn canolbwyntio ar yr uchod.
Bydd yr atyniadau yma yn rhai
ddeongliadol, yn addysgiadol ag yn rai a fydd yn hyrwyddo, hefyd byddant yn
ceisio annog ehangiad o'r rhwydwaith drwy gynnwys atyniadau sydd yn fwy gwyrdd,
llwybrau, llwybrau natur, coetiroedd a llety.
Yn ychwanegol i'r
cynhyrchion lleol sy'n pwysleisio nodweddion 'gwyrdd' ac amgylcheddol ardal
Cadwyn Clwyd a fydd yn cael ei roi ar brawf drwy fenter hyrwyddo, felly yn
manteisio ar adnoddau naturiol yr ardal mewn dull sensitif a chynaliadwy.
Bydd y prosiect Arfordirol yn ceisio datblygu llwybr cerdded a beicio
ar hyd Arfordir Dyfrdwy SSSI/SAC gan ddehongli eu hadnoddau naturiol ac
amgylcheddol o safon uchel.
Bydd digwyddiadau newydd hefyd yn cael eu
hannog i wneud defnydd o'r rhwydwaith ehangach megis 'Cerdded dros y
Penwythnos' a fydd yn cynnwys llwybrau sydd mewn bodolaeth yn barod ac yn hybu
y defnydd o lety.
|
|
|
Menter Ddiwylliannol Clwyd |
|
Mae gan ardal Cadwyn Clwyd gyfoeth o fentrau
diwylliannol nad ydynt wedi eu llwyr datblygu. Mae'r crynodiad o fentrau
diwylliannol sy'n bodoli ynghyd â'r potensial i fusnesau lleol i gymryd
rhan yn un arwyddocaol. Mae'r mentrau diwylliannol sydd mewn bodolaeth yn barod
yn datblygu'n barhaol, mentrau a oedd yn rai prawf eu natur, sydd angen eu
cefnogi a'u maethu. Bydd yr LAG yn ceisio mynd ati i roi'r gefnogaeth yma a
datblygu menter brawf i rwydweithio a hybu y mentrau yma gan sicrhau fod Cadwyn
Clwyd yn cadw ei enw da fel canolfan ragoriaeth mewn gweithgareddau
diwylliannol. Bydd y prosiect yma yn beilot o saith digwyddiad / gw^yl a fydd
yn denu ymwelwyr drwy'r flwyddyn gan sicrhau fwy o fudd economaidd i bentrefi a
threfi bach yn ardal Cadwyn Clwyd.

Mae elfennau'r prosiect yn cynnwys
(a) 'Mewn goleuni newydd' yn cwmpasu y
defnydd o oleuni ym mis Hydref, bydd yn ceisio datblygu cyfres o nosweithiau ym
mis Hydref / Tachwedd a fydd yn trawsnewid nifer o nodweddion amlwg yn ardal
Cadwyn Clwyd, megis Yr Hen Garchar Rhuthun, Abaty Glyn y Groes, drwy
dechnolegau gweledol a golau;
(b) 'Tra rydych yma' cyfres o
ddigwyddiadau peilot a fydd yn targedu at wella profiad yr ymwelydd drwy
ddiwylliant lleol yr ardal.
|
|
|
|
|
|
Cadwyn Clwyd, Llys Clwyd, Parc Busnes Lôn Parcwr, Rhuthun, Sir Ddinbych. LL15 1NJ Ffôn: 01824 705802 Facs: 01824 709853
|
|
|