Digwyddiadau
Hydref 2008
Ll M M I G S S
29 30 1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31 1 2
Cysylltwch
Noddwyr
Call Us Cysylltwch a ni Write to us
ignore - spacer
Croeso

Croeso i Cadwyn Clwyd 

Asiantaeth datblygu cefn gwlad yw Cadwyn Clwyd sy'n darparu cyllid cymorth a chefnogaeth i gymunedau a grwpiau yng nghefn gwlad Sir Ddinbych a Sir y Fflint.  Cwmni dielw ydym ni a'n nod drwyddo draw yw cynorthwyo cymunedau a grwpiau busnes lleol i ddatblygu ac arallgyfeirio'r economi leol.  Mae'r Cwmni yn cyflawni ei gylch gwaith ar sail yr egwyddorion hyn: 

  • Cyfranogiad gwerin gwlad
  • Gweithio mewn partneriaeth
  • Arloesi

Mae'r Cwmni'n cynnal a chyrchu amrywiaeth o raglenni a mentrau datblygu cefn gwlad.  Yn eu plith mae LEADER+, Amcan 1, Gweithredu dros Gymunedau Gwledig a Cyswllt Ffermio. 

Mae prif feysydd prosiectau Cadwyn Clwyd yn cynnwys:

  • Arallgyfeirio Amaethyddiaeth
  • Bwyd Amaeth a Bwyd Arbenigol
  • Y Sector Coedwigaeth a Choetiroedd
  • Cynlluniau Amgylcheddol
  • Twristiaeth Ddiwylliannol
  • Twristiaeth Werdd
  • Treftadaeth
  • Datblygu Cymunedol
  • Meithrin Galluedd Cymunedau
  • Mynediad at Wasanaethau
  • Yr Amgylchedd
  • Cadwraeth
  • Prosiectau Trawsffiniol a Rhyngwladol yn yr UE a RhEE.
 
Ardal Cyfrifoldeb
Map o Gymru
Newyddion Diweddaraf
ignore - spacer
Cadwyn Clwyd, Llys Clwyd, Parc Busnes Lôn Parcwr, Rhuthun, Sir Ddinbych. LL15 1NJ Ffôn: 01824 705802 Facs: 01824 709853
Cartref